Ganwyd 27 Rhagfyr 1533, mab, yn ôl Humphrey Humphreys (Wood, Athenae Oxonienses, gol. Bliss, ii, col. 837 n.) i rydd-ddeiliad o blwyf Llanfeirian (Llangadwaladr bellach) ym Môn. Addysgwyd ef yn Ysgol Winchester a New College, Rhydychen, yr etholwyd ef yn gymrawd ('perpetual fellow') ohono yn 1554. Graddiodd yn B.C.L. 21 Chwefror 1558/9, ond tua 1561, yn hytrach na chydymffurfio a'r drefn newydd o dan Elisabeth, cefnodd ar y Brifysgol a chilio i'r Cyfandir. Aeth i brifysgol newydd Douai i gymryd graddau doethur yn y gyfraith ac mewn diwinyddiaeth, ac yno fe'i penodwyd yn athro'r gyfraith eglwysig. Gwnaed ef yn ganon eglwys gadeiriol Cambrai yn fuan ar ôl hyn, ac wedyn yn archddiacon Hainault. Rhoes bob cynhorthwy i'r Dr. William Allen, ei gyfaill er dyddiau Rhydychen, i sefydlu, yn 1568, goleg enwog Douai i baratoi offeiriaid ar gyfer y genhadaeth Seisnig. Tua 1574 anfonwyd Owen Lewis i Rufain ar fusnes cyfreithiol dros gabidwl Cambrai, ac yno daeth ei allu a'i ddiwydrwydd ag ef i sylw uchel-glerigwyr y Fatican, a bwysodd arno i aros yn Rhufain. Cydsyniodd yntau, a thoc fe'i penodwyd gan y Pab Gregori XIII yn ' referendarius utriusque signaturae ' - swydd a'i gwnaeth yn ŵr o gryn ddylanwad yn llys y Pab. Y mae'n sicr mai Owen Lewis oedd un o'r rhai a gymhellodd Gregori i gefnogi ymgyrch Thomas Stukeley yn erbyn Iwerddon yn 1578; bu iddo hefyd ran bwysig yn sefydlu'r Coleg Seisnig yn Rhufain, ac ar ei awgrym ef y dewiswyd Morys Clynnog yn warden. Bu helyntion blwyddyn gyntaf y coleg, pan gododd y myfyrwyr Seisnig yn erbyn Clynnog a mynnu cael y Jesiwitiaid yn rheolwyr, yn ergyd drom i Owen Lewis, nad oedd ganddo mwy na'r rhelyw o'r alltudion Cymreig lawer o gariad at 'y gwŷr â'r gyddfau hirion,' fel y galwent y Jesiwitiaid. Ond tra yn y cyfwng hwn fe'i penodwyd yn ficer cyffredinol i S. Carlo Borromeo, archesgob Milan ac un o brif urddasolion yr Eglwys Gatholig. Yn ôl rhai awdurdodau, Borromeo ei hun a'i denodd i'w wasnaethu; eithr dywedir ym mhapurau'r Tad Robert Parsons mai'r Pab a drefnodd y cyfryw benodiad er mwyn cael gwared ag Owen Lewis o Rufain, ac felly sicrhau heddwch a chytundeb yn y Coleg Seisnig. Pa un bynnag am hynny, cyrhaeddodd Milan ar 16 Mehefin 1580, ac yno y bu am y pedair blynedd nesaf yn ymgymryd â gorchwylion pwysig ar ran Borromeo. Ac ym mhlas yr archesgob cafodd gwmni ei gydwladwr, Gruffydd Robert, yntau hefyd yn un o 'deulu' Borromeo, ac yn un o'i gyffeswyr. Ymddengys fod Gruffydd Robert yn aml yn cynorthwyo Owen Lewis yn ei swydd fel ficer cyffredinol. Bu farw Borromeo ym mis Tachwedd 1584, ac ymhen deufis dychwelodd Owen Lewis i Rufain, lle'r arhosodd am y gweddill o'i oes yn uchel ei barch yn llys y Pab. Ceir ei hanes yn 1586 yn hynod weithgar dros Mari, frenhines Sgotland, ac yn ceisio cael y Pab i gydsynio â'r cynllwyn i'w gosod ar orsedd Lloegr. Casâi'r Sbaenwyr a phleidwyr brenin Sbaen, gan gynnwys y Jesiwitiaid yn fwyaf arbennig; gwyddai Philip II yn dda am hyn, ac y mae'n sicr mai ef a fynnodd wneud Owen Lewis yn esgob Cassano bellennig yn 1588, a hynny er mwyn cael ei wared o lys y Pab. Eithr yn Rhufain yr arhosodd ar ôl ei gysegru'n esgob, a hynny ar gais y Pab. Ar y pryd yr oedd yr Armada ar fin cychwyn yn erbyn Lloegr, a phe llwyddai'r ymgyrch dymuniad cyfeillion Owen Lewis oedd iddo gael ei benodi'n archesgob Caerefrog. Ond ni fynnai'r Dr. Allen mo hyn, a chan dybied nad doeth fyddai gadael esgob Cassano yn yr Eidal, awgrymodd roddi iddo esgobaeth Tyddewi neu Henffordd neu Gaerwrangon - 'with some occupation to keep him in play at a distance from Rome and London.' Ofer wrth gwrs fu'r holl ddisgwyliadau hyn, ond ym mis Hydref 1594 cododd gobeithion y Catholigion Cymreig unwaith eto pan fu farw'r Cardinal William Allen. Hyderent y dewisid Owen Lewis yn gardinal yn ei le, ac y mae'n sicr ei fod yntau'n chwennych yr anrhydedd a'i fod yn ffefryn gan y Pab. Ond bu farw yn Rhufain 14 Hydref 1594 pan oedd ar fin cael ei ddyrchafu'n un o dywysogion yr Eglwys; claddwyd ef oddi mewn i furiau capel y Coleg Seisnig.
Ceir ei hanes ym mis Awst 1579 yn apelio at y Cardinal Guglielmo Sirleto, gŵr pwysig yn Eglwys Rufain, ar iddo gael gan y Pab roi cymorth ariannol tuag at argraffu yn yr Eidal gyfieithiadau Cymraeg o lyfrau Pabyddol. Ei fwriad wedyn oedd smyglo'r cyfryw lyfrau i Gymru, ac yno eu dosbarthu er gwrthweithio dylanwad y llenyddiaeth Brotestannaidd a oedd yn ei dyb ef yn llygru eneidiau ei gydwladwyr. Ond ymddengys nad ymatebodd y Pab i'w apêl, ac mai methiant fu ei ymgais.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.