Y mae'n debyg ei fod o deulu Bodvel - efallai ei fod yn fab i John Wyn ap Hugh gan ei fod yn ei alw ei hun yn un o'i ysgrifeniadau yn ' Robert Johns gwyn.' Aeth i Goleg Corpus Christi, Rhydychen, a graddio'n B.A. yn 1568. Tua thair blynedd wedi hynny fe'i perswadiwyd gan ei gymydog Robert Owen, Plas Du, Sir Gaernarfon, i beidio â mynychu gwasanaeth Eglwys Loegr a dianc dros y môr. Aeth i seminari Douay yn 1571 yng nghwmni Thomas Crowther, Cymro o esgobaeth Henffordd a raddiodd yn Rhydychen tua'r un adeg ag yntau a thua'r amser y graddiodd Robert Owen hefyd. Cymerodd ei B.D. ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1575 a chafodd ei anfon i'r genhadaeth yn Lloegr y flwyddyn ddilynol. Aeth yn syth i'w ardal enedigol a rhoddwyd lloches iddo yn yr ystafell ddirgel yn Plas Du gan Thomas, brawd Hugh Owen. Yn gynnar iawn daeth newyddion i Douay am lwyddiant eithriadol ei genhadaeth, yn enwedig ymysg gwragedd yr ardal, ac am ddiflastod yr esgob, Nicholas Robinson, pan geisiodd hwnnw ddyfod â chyngaws yn erbyn y dychweledigion. Ysgrifennodd lawer yn Gymraeg er mwyn lledaenu ei ffydd, gan gyfieithu Christian Directory Robert Parsons (Llyfr y Resolusion); awgrymwyd mai efe ydoedd awdur y farwnad ffyrnig i Wilym o Orange (bu farw 1584), y dywedir hefyd mai Richard Gwyn a'i hysgrifennodd. Yn 1578, pan nad oedd mwyach ddim esgobion Pabaidd wedi eu gadael yn rhydd yn Lloegr, rhoes y pab Gregory XIII ryw gymaint o awdurdod esgobol iddo dros y cyfnod arbennig hwnnw. Ni wyddys ddim am ei hanes diweddarach, ond ymddengys ei fod yn fyw yn 1591.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.