SMYTH, RHOSIER (1541 - 1625), offeiriad Pabyddol a chyfieithydd yn Gymraeg

Enw: Rhosier Smyth
Dyddiad geni: 1541
Dyddiad marw: 1625
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Pabyddol a chyfieithydd yn Gymraeg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Geraint Gruffydd

Ganwyd yn Llanelwy yn 1541. Efallai iddo raddio'n B.A. yn Rhydychen yn 1563. Ni wyddys pa bryd y troes yn Babydd, ond gellir tybied iddo ffoi i'r Cyfandir tua chanol y saithdegau. Ymunodd â Choleg Seisnig Douai, ac ymaelododd yn y brifysgol yno c. 1576. Erbyn dechrau 1579 yr oedd yng Ngholeg Seisnig Rhufain, yn brwydro ym mhlaid y myfyrwyr Cymreig yn erbyn y Saeson (gweler Clynnog, Morys). Y Saeson a orfu, a diarddelwyd Smyth o'r coleg am iddo wrthod cymryd ei urddo'n offeiriad a dychwelyd i Loegr yn genhadwr. Tywyll yw ei hanes wedi hyn; efallai iddo gael nawdd gan ei gyfeillion Owen Lewis a Gruffydd Robert. Y mae'n debyg bod rhyw sail i'r honiad a geir yn Y Drych Cristianogawl yn 1585 ei fod yn byw yn Rouen y pryd hwnnw; efallai mai ef oedd y ' Doctor Smythy ' a arwyddodd, ynghyd ag eraill, ddeiseb ar ran lleianod a mynachod Urdd San Ffraid (gynt o Syon Abbey) yn Rouen c. 1587. Dychwelodd i Loegr rywdro tua chanol y nawdegau, a charcharwyd ef yn Niwgad am ysbaid, ond llwyddodd i ddod yn rhydd. Y mae'n debyg mai rhywbryd wedi hyn yr urddwyd ef yn offeiriad; efallai ei fod eisoes yn S.T.P. (= D.D.), ond ni wyddys ble y graddiodd. Sgrifennodd Gruffydd Robert lythyr ato i Baris wedi iddo ddod yn rhydd o'r carchar, c. 1596, ac enwir ef gan un o ysbïwyr Cecil yn 1598 yn un o'r rhai a geisiai sefydlu seminari ym Mharis tua'r adeg honno. Cyfeirir ato drachefn gan ysbïwr yn 1601. Ym Mharis y cyhoeddodd ei dri llyfr Cymraeg, ond y mae nodyn mewn copi o Theater dv Mond yn Ll.G.C. yn awgrymu bod rhyw gysylltiad rhyngddo a sir Fynwy mor ddiweddar â 1615.

Yn ôl tystiolaeth un o'r ysbïwyr, yr oedd Smyth yn w?r pur ddiddorol ei syniadau; ni hoffai na'r Jesiwitiaid na'r Saeson, a dymunai weld sefydlu gwerin-lywodraeth, ynghyd â rhyddid cydwybod, yng Nghymru a Lloegr. Fel llenor, prin y cyfrifir ef ymysg meistri mawr rhyddiaith Gymraeg, ond nid dibwys o gwbl mo'i waith. Arbennig o ddiddorol yw ei ymgais i gyfoethogi geirfa'r iaith yn ôl awgrymiadau ei athro, Gruffydd Robert. Dywed Lewis Owen yn ei Running Register, 1626, i Smyth farw 'the last year,' h.y. 1625 - ond os sgrifennwyd y geiriau yn 1625, yna 1624 fyddai'r flwyddyn:

Dyma restr o'i weithiau cyhoeddedig: (a) Crynnodeb o addysc Cristnogawl, Paris, 1609 (S.T.C. 4569). Cyfieithiad o ddwy bennod gyntaf a rhan o drydedd bennod catecism Lladin S. Petrus Canisius, Summa Doctrinae Christianae; (b) Opvs catechisticvm … sef yw: Svm ne grynoddeb o adysc Gristionogawl, Paris, 1611 (S.T.C. 4570), cyfieithiad cyflawn o'r un catecism; (c) Theater dv Mond sef ivv. Gorsedd y Byd, Paris, 1615 (S.T.C. 3170a), cyfieithiad o lyfr Ffrangeg Pierre Boaistuau, Le Théâtre du Monde, sef traethawd ar drueni y byd a'i odidowgrwydd. Nid gwaith gwrth-ddiwygiadol mohono.

Priodolir i Smyth hefyd ragair byr a geir ar flaen Y Drych Cristianogawl, 1585. Ond ni ellir bod yn sicr mai ef a'i piau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.