bedyddiwyd ef yn Llannor yn 1722; mab John Williams, Bachellyn, plwyf Llanbedrog, Sir Gaernarfon, amaethwr cefnog a chyfreithiwr galluog, a gadwai ei swyddfa yn Bachellyn. Tybir i'r mab dderbyn ei addysg fore yn ardal Llannor ac wedyn yn ysgol Botwnnog, a'i ddwyn i fyny'n gyfreithiwr yn swyddfa ei dad. Yn gynnar ar ei oes, symudodd i Lundain, ac yno bu'n ymarfer fel cyfreithiwr am rai blynyddoedd a dyfod yn aelod o'r Inner Temple. Yno hefyd priododd foneddiges gyfoethog, a bu iddynt dri o blant - dwy ferch ac un mab. Trwy etifeddu tiroedd ei dad, a thrwy briodas, daeth Rowland Jones yn gyfoethog iawn ac yn berchen stad y Weirglodd Fawr (Broom Hall) ym mhlwyf Abererch, Sir Gaernarfon. Bu ei fab yntau, Rowland Jones, farw yn ddibriod 2 Rhagfyr 1856, a daeth yr etifeddiaeth yn eiddo i'w nai, William Jones, Ysgubor Hen, Eifionydd. Yn 1859 bu cyngaws yn y ganghellys er ceisio gwrthbrofi hawl teulu William Jones i etifeddiaeth Broom Hall; ceisiwyd profi mai mab i William Jones, Crugan, ger Llanbedrog, ydoedd Rowland Jones, ac nid mab i John Williams, Bachellyn.
Yn ei ddydd, ystyrid Rowland Jones yn ysgolhaig mawr ac yn ieithydd o fri. Yr oedd yn bur hyddysg mewn ieithoedd, yn enwedig Lladin a Groeg, ac ysgrifennodd amryw lyfrau ar ieitheg. Yn ei lyfr The Origin of Language and Nations, 1764, ffurfiodd ddamcaniaeth ynglŷn â tharddiad geiriau, a daliai y gellid tarddu geiriau o fân wreiddiau unsillafog, ac mai'r iaith Geltig oedd yr iaith gyntefig; yn ei eiriadur y mae'n olrhain tarddiad geiriau Saesneg, Lladin, Groeg, a Chymraeg i'r un ffynhonnell Geltig. Bu ganddo ddylanwad mawr ar ddamcaniaethau ieithyddol Dr. William Owen Pughe, yn enwedig ar eiriadur hwnnw, a chredir mai geiriadur Rowland Jones ydoedd sail geiriadur Cymraeg Pughe.
Cyhoeddodd y llyfrau a ganlyn yn ymwneud ag ieitheg: (1) The Origin of Languages and Nations. Hieroglyfically, Etymologically, and Topographically defined and fixed, after the Method of an English, Celtic, Greek, Latin, English Lexicon, 1764. (2) Hieroglyphic: or a Grammatical Introduction to an Universal Hieroglyfic Language, consisting of English signs and voices …, 1768. (3) The Philosophy of words in two dialogues between the Author and Crito, 1769. (4) The Circles of Gomer, or, an Essay towards an Investigation and Introduction of the English as an Universal Language …, 1771. (5) The 10 Triads; or the Tenth Muse, wherein the origin, nature, and connection of the Sacred Symbols, Sounds, Words, Ideas are discovered, 1773. Bu farw tua diwedd 1774.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.