EDWARDS, THOMAS ('Caerfallwch'; 1779 - 1858), geiriadurwr

Enw: Thomas Edwards
Ffugenw: Caerfallwch
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1858
Priod: Edwards (née Webster)
Priod: Edwards (née Wynne)
Priod: Margaret Edwards (née Jones)
Rhiant: Margaret Edwards
Rhiant: Richard Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: geiriadurwr
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Henry Lewis

Ganwyd, mwy na thebyg yn y Felinganol, yn nhref-ddegwm Caerfallwch, ym mhlwyf Llaneurgain (Northop), Sir y Fflint, yn 1779, a'i fedyddio yn Llaneurgain 5 Mawrth 1780, mab i Richard a Margaret Edwards. Rhwymwyd ef yn 14 oed yn brentis i gyfrwywr yn yr Wyddgrug, ar ôl ychydig addysg mewn ysgol ramadegol yn Llaneurgain. Câi gyfle yn nhy ei feistr i ddarllen newyddiaduron a llyfrau Saesneg. Ar ddiwedd ei brentisiaeth cerddodd ef a chyfaill iddo i Lundain i geisio gwaith, ond bu raid dychwelyd adref ar draed dan gardota, heb gael gwaith. Yn 1800 neu 1801 priododd Margaret Jones, Trellyniau, Helygen, ac â'r gynhysgaeth a oedd ganddi hi cychwynnodd fusnes cyfrwywr yn Llaneurgain, ond methu a wnaeth. Yn 1802 cafodd le fel ysgrifennydd mewn gwaith glo yn yr ardal. Wedi marw'i wraig ymbriododd yr ail waith â Miss Wynne, Llaneurgain, yn 1803. Yn 1806 symudodd ef i swydd dan gwmni'r gwaith glo yn Llundain, ac yn 1815 cafodd swydd dan N. M. Rothschild, a ddaliodd hyd ddiwedd ei oes. Yn 1816 priododd ei drydedd wraig, Miss Webster o'r Fynachlog, Llaneurgain. Teithiodd droeon i Ewrop dros Rothschild, ac yn 1830 bu dros ddau fis yn yr Almaen yn ymchwilio i annhrefn yng nghyfrifon rhai o'r pendefigion â'r cwmni. Derbyniodd £1,000 yn anrheg ganddynt. Bu farw yn Llundain, 4 Gorffennaf 1858, a'i gladdu ym mynwent Highgate.

Ymddiddorodd ar hyd ei oes yn yr iaith Gymraeg, ac mewn cerddoriaeth. Cyfrannodd lawer i'r cyfnodolion megis Y Gwyliedydd, Seren Gomer, Goleuad Cymru, Cymro Llundain, dan y ffugenwau 'T. ap Edwart ap Eurgain,' 'Zabulonun,' 'Caerfallwch.' Yn Y Gwyliedydd (1829-30) cyhoeddwyd 'Darlith ar Fwnai, etc.' ganddo, 'a draddodwyd ger gwydd Cymdeithas y Cymreigyddion yn Nghaerludd, Nos Iau, Gorphenaf 1af., 1830.' Cyfansoddai farddoniaeth yn null Pughe (gweler dwy gân yn Ceinion Awen y Cymry, 121-4). Ceir tonau o'i waith, er enghraifft yn Seren Gomer, v, 224; vi, 64. Ond ei lafur pennaf oedd ceisio cyfoethogi'r Gymraeg â geiriau newydd er mwyn gallu trin yn yr iaith yr agweddau newydd ar wybodaeth, mewn gwyddoniaeth yn arbennig. Yn 1845 cyhoeddodd lyfr, Analysis of Welsh Orthography. Dadansoddir yr iaith yn null Pughe; disgrifir treigliadau cytseiniol a chyfnewidiadau llafariaid; eglurir defnydd ac ystyr rhagddodiaid ac ôlddodiaid. Fe'i cyhoeddwyd drachefn yn ei brif waith, Geirlyfr Saesoneg a Chymraeg, An English and Welsh Dictionary (Holywell, Printed & published by P. M. Evans, MDCCL). Mae yn hwn luoedd o eiriau a luniodd ef ei hun i gyfateb i dermau newydd yn y gwahanol wybodau yn Saesneg. Ymhen can mlynedd ar ei ôl ceisir gwneud yr un peth gan bwyllgorau. Ymddengys mai 'Caerfallwch' ei hun a greodd y gair 'pwyllgor' ('from pwyll, deliberation; and cor, assembly, company').

Yr oedd 'Caerfallwch' yn un o'r aelodau o eglwys Jewin (Llundain) a fwriwyd allan gan awdurdodau'r Methodistiaid Calfinaidd am gefnogi rhyddfreiniad y Pabyddion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.