EVANS, PETER MAELOR (1817 - 1878), cyhoeddwr

Enw: Peter Maelor Evans
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1878
Priod: M. Evans (née Kerfoot)
Rhiant: Thomas Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd 10 Ebrill 1817 yn ardal Adwy'r Clawdd, lle yr oedd ei dad, Thomas Evans, yn ysgolfeistr nes iddo ymadael â'i swydd i oruchwylio gweithfeydd plwm. Derbyniodd ei addysg gyntaf yn ysgol ei dad ac wedi hynny mewn ysgol ddyddiol yn yr Wyddgrug ac yn ysgol ramadeg Rhuthun, lle y cafodd hyfforddiant trwyadl yn y clasuron. Bwriadwyd iddo fod yn gyfreithiwr ond trodd at y grefft o argraffu. Daeth yn bartner yng nghwmni Lloyd a Evans, cyhoeddwyr ac argraffwyr, yr Wyddgrug a Threffynnon (ond wedyn caewyd y swyddfa yn yr Wyddgrug). Ymneilltuodd John Lloyd o'r cwmni ar ei ymadawiad i Lerpwl i gyhoeddi'r Amserau yn 1848 ac o hyn allan P. M. Evans yn unig oedd y perchennog. Yn 1848 priododd M. Kerfoot, trydedd ferch James Kerfoot, Vaenol Fawr, ger Abergele. Ymddangosodd amryw o weithiau pwysig o'i wasg; yn eu plith yr oedd Esboniad James Hughes ar yr Hen Destament. Dechreuodd gyhoeddi Y Drysorfa yn 1854, Y Traethodydd yn 1855, a Trysorfa y Plant yn 1860. Yn eisteddfod yr Wyddgrug yn 1873 enillodd wobr am y llyfr Cymraeg gorau ei ddiwyg, sef cyfrol o bregethau Henry Rees. Yr oedd yn Rhyddfrydwr brwd a chymerodd ran amlwg ym mywyd dinesig Holywell. Bu'n aelod o fwrdd y gwarcheidwaid ac yn gadeirydd y bwrdd lleol. Cyfarfu ei ddiwedd trwy ddamwain pan oedd ar ymweliad â chymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth, 29 Mai 1878.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.