CORY (Cory Brothers and Company Limited)

Ceir dau deulu gwahanol o ddiwydiannwyr yn Ne Cymru a oedd yn dwyn yr un cyfenw. Dylid gwahaniaethu rhwng y teulu hwn, a sefydlodd gwmni Cory Brothers and Company Ltd. a theulu John Cory I a'i feibion, a sefydlodd gwmni John Cory and Sons, Ltd.

JOHN CORY (1828 - 1910), perchennog llongau masnach a phyllau glo

Ganwyd 28 Mawrth 1828 yn Bideford, Dyfnaint, mab hynaf RICHARD CORY I (1799 - 1882) a Sarah (bu farw 5 Hydref 1868), merch John Woollacott, Bideford.

Yr oedd gan RICHARD CORY I long fechan yn mynd a dyfod rhwng Caerdydd, Bryste, ac Iwerddon. Tua 1838 agorodd fasnachdy siandler a groser yn ymyl y Custom House, Caerdydd, a daeth â'i wraig a'i dri mab - JOHN, RICHARD, a THOMAS - i Gaerdydd hefyd. Yr oedd yr adeg yn ffafriol dros ben. Ychydig yn gynt yr oedd Robert Thomas, Waunwyllt, wedi anfon y llwyth cyntaf o lo ager ar y gamlas i Gaerdydd, yr oedd y Bute West Dock yn cael ei agor yn 1839, ac yr oedd y Taff Vale Railway (rhwng Caerdydd a Merthyr Tydfil) i'w hagor yn 1841. Achubodd y tad a'i ddau fab hynaf, JOHN a RICHARD, y cyfle ardderchog hwn a symudasant i ardal y dociau tua 1842, gan ychwanegu busnes broceriaid-llongau at yr un yr oeddent ynddo eisoes. Daethant i gynrychioli'r Meistri Wayne and Co., ac, yn ddiweddarach, i allforio glo eu hunain.

Yn 1856 rhoesant y gorau i'r busnes groser a dechrau masnachu (o dan yr enw Richard Cory and Sons) fel broceriaid, perchenogion llongau, gwerthwyr ac allforwyr glo, etc. Ymneilltuodd y tad yn 1859, a chariwyd y gwahanol fathau o fusnes ymlaen gan y brodyr John a Richard (ganwyd 1830) o dan yr enw Messrs. Cory Brothers and Company; daeth y cwmni'n un cyfyngedig yn 1888. Oherwydd y galw mawr am lo ager Cymru at wasanaeth llongau mewn gwahanol fannau, ac yn enwedig ar ôl agor Camlas Suez yn 1869, dechreuodd y cwmni agor swyddfeydd ac ystordai mewn amryw wledydd. Daethant hefyd yn berchen pyllau glo - Pentre, Gelli, Tynybedw, a Tydraw yn y Rhondda, Aber yn nyffryn Ogwr, Rheola a Glyncastle yn nyffryn Nedd, a Penrikyber [sic] yn nyffryn Aberdâr. Daethant hefyd yn berchenogion y casgliad mwyaf o wagenni glo yn y deyrnas.

Trwy hyn oll daeth y brodyr yn gyfoethog iawn, ond buont yn hael eu rhoddion at amryw achosion da, yn enwedig yng Nghaerdydd a'r cylch. Yr oedd y brodyr, fel eu tad, yn hyrwyddo'r mudiad dirwestol. Er mai Eglwyswr oedd y tad i gychwyn, ymunodd ag enwad yr United Methodists; Wesle oedd John, a Richard II yn Fedyddiwr. Cafodd Byddin yr Iachawdwriaeth lawer o gymorth ganddynt.

Yr oedd JOHN CORY yn un o arloeswyr doc a rheilffordd y Barri, yn llywydd y ' British and Foreign Sailors Society,' ac yn arglwydd maenor S. Nicholas. Rhoes Maendy Hall, Ton Pentre, i Fyddin yr Iachawdwriaeth; rhoes lawer o arian i'r gobeithluoedd, i gartrefi Dr. Barnardo, i glybiau morwyr mewn amryw drefydd, ac i lu mawr o sefydliadau dyngarol a diwylliannol; dywedid ei fod ar un adeg yn cyfrannu tua £50,000 y flwyddyn at wahanol achosion. Dadorchuddiwyd, yn 1905, gerflun ohono, gwaith Syr William Goscombe John, o flaen Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Priododd (19 Medi 1854) Anna Maria, merch John Beynon, Casnewydd-ar-Wysg, perchennog glofeydd. (Bu hi farw yn 1909.) Bu iddynt ferch, FLORENCE MARGARET CORY, Duffryn, S. Nicholas (bu farw 11 Tachwedd 1936), a thri mab - (1) HERBERT B. CORY (bu farw 1927), (2) Syr CLIFFORD JOHN CORY, barwnig, llywydd y ' Monmouthshire and South Wales Coalowners Association ' yn 1906 (bu farw 3 Chwefror 1941), a (3) REGINALD R. CORY ((1871-1934).

Bu John Cory farw 27 Ionawr 1910, a chladdwyd ef yn eglwys S. Nicholas.

RICHARD CORY II (1830 - 1914),

Ail fab Richard Cory I ac felly'n frawd i John Cory; yr oedd yn bartner a chyd-gyfarwyddwr ym musnes ' Messrs. Cory Brothers and Company.' Fel ei frawd John bu'n hael ei roddion i wahanol achosion da - yn enwedig i gapelau, colegau, a chenadaethau'r Bedyddwyr, Byddin yr Iachawdwriaeth, yr achos dirwestol, y Y.M.C.A., a Choleg Prifathrofaol Caerdydd. Priododd Emily, merch Joseph Vivian, Roseworthy, Cernyw. Bu hi farw 1 Gorffennaf 1919; yr oedd ei gwr wedi marw 20 Medi 1914 a'i gladdu yng nghladdfa gyhoeddus Caerdydd. Bu iddynt bedwar mab a thair merch.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.