JONES, OWEN (1787 - 1828), ' Owen Jones o'r Gelli,' hyrwyddwr ysgolion Sul

Enw: Owen Jones
Ffugenw: Owen Jones O'r Gelli
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1828
Plentyn: John Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hyrwyddwr ysgolion Sul
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 16 Chwefror 1787 yn Nhywyn, Meirionnydd, yn fab i John Jones o'r Crynllwyn; yr oedd gan ei fam (o Aberllefenni) frawd, Owen Jones, yn ficer Llandecwyn, a galwyd y bachgen ar ei enw. Prentisiwyd ef i gyfrwywr yn Aberystwyth, ac yno, gyda'i gefnder Robert Davies (1790 - 1841), ymdaflodd i waith gyda'r ysgol Sul; canlynodd ar hynny yn Llanidloes. Wedi bod am dymor yn Llundain, yn cywiro proflenni Beibl Cymraeg cyntaf Cymdeithas y Beiblau, symudodd yn 1806-7 i Amwythig; yno hefyd llafuriai gyda'r ysgol Sul. Yn 1808, gofynnwyd iddo arolygu holl ysgolion Sul Maldwyn; dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (ordeiniwyd ef yn 1819); priododd, ac aeth i fyw i dŷ ei wraig, y Gelli, Llanfair Caereinion. Bu farw yno 4 Rhagfyr 1828. Cyhoeddodd yn 1820 gatecism, Arweinydd i Wybodaeth. Dywedwyd amdano na wnaeth neb ond Thomas Charles fwy nag ef i ledaenu ysgolion Sul yng Ngogledd Cymru. Canodd Lewis Edwards (nad oedd ar y pryd ond 19 oed) awdl farwnad iddo yng Ngoleuad Cymru, 1829, 311, a chyhoeddodd John Hughes, Pontrobert, gofiant a marwnad iddo, yn 1830.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.