HUGHES, JOHN EVAN (1865 - 1932), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a golygydd

Enw: John Evan Hughes
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1932
Priod: Eliza Charles Hughes (née Davies)
Rhiant: Evan Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a golygydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yng Nghaernarfon, mab Evan Hughes. Bu yn academi Tywyn, yn ysgol Clynnog, Coleg Aberystwyth, a Choleg S. Ioan, Caergrawnt. Graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Llundain, 1886, ac yng Nghaergrawnt, 1891, gan gymryd ei M.A. yno yn 1896. Cymerodd radd B.D. Prifysgol Llundain yn 1911. Dechreuodd bregethu yn 1892, ac yn 1894 galwodd eglwys Seilo, Caernarfon, yr eglwys y magwyd ef ynddi, ef yn weinidog, ac yno y bu hyd ei ymddiswyddiad, oherwydd gwaeledd iechyd, yn 1926. Bu farw yng Nghaernarfon 11 Mawrth 1932. Yr oedd yn bregethwr da, ond lluddiodd ei iechyd ef rhag gwneud yr hyn a ddymunai yn y cyfeiriad hwn. Bu'n arholydd mewn gwybodaeth Feiblaidd i Fwrdd Canol Cymru, ac yn 1915 traddododd y Ddarlith Davies ar ' Y syniad offeiriadol a'r syniad proffwydol am grefydd.' Penodwyd ef i olygu 'r Traethodydd yn 1905, a bu'n ei olygu ei hun hyd ddiwedd 1928, pan benodwyd bwrdd golygyddol, gydag ef yn gadeirydd. Ychydig a ysgrifennodd, ac yr oedd yn fwy o ysgolhaig nag o lenor. 'Ymhyfrydai,' medd yr ysgrif goffa yn Y Traethodydd, 'mewn gwybodaeth fanwl o bob pwnc a efrydid ganddo.' Priododd Lily Charles, merch R. J. Davies, Cwrt Mawr, Llangeitho, a chwaer y diweddar brifathro J. H. Davies.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.