DANIEL, DAVID ROBERT (1859 - 1931), llenor

Enw: David Robert Daniel
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1931
Rhiant: Jane Daniel (née Roberts)
Rhiant: Robert Daniel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Mab Robert Daniel a Jane, merch Robert Roberts; ganwyd yn Ty'n-y-bryn, Llandderfel, 6 Mai. Cafodd ei addysg yn yr ysgol ramadeg a Choleg yr Annibynwyr, y Bala, ac ar ôl ymweld â'r Unol Daleithiau, daeth yn 1887 yn drefnydd cynorthwyol dros Ogledd Cymru i'r Mudiad Dirwestol Prydeinig. Yn 1896 penodwyd ef yn ysgrifennydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, a bu'n henadur yng nghyngor sir Caernarfon am dymor. Yn ddiweddarach aeth i'r gwasanaeth gwladol, bu'n ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ar Ddifodiad Glannau'r Môr, ac wedi hynny'n ysgrifennydd cynorthwyol y Comisiwn ar yr Eglwys yng Nghymru. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i T. E. Ellis, a bu'n flaenllaw ym mywyd gwleidyddol Cymru ym mlynyddoedd olaf y 19eg ganrif. Ysgrifennodd nifer o erthyglau i'r Wasg Gymraeg, gan gynnwys atgofion am O. M. Edwards yn Cymru (1921), a hefyd hanes cynnar bywyd T. E. Ellis (llawysgrif). Bu farw 14 Medi 1931, a'i gladdu yng Nghefnddwysarn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.