Bedyddiwyd 29 Hydref 1732, mab John Pierce a'i wraig Anne, tafarnwraig yr 'Harp' yn Llanfair Talhaearn. Dyfynnir ei ddisgrifiad byw ohono'i hunan gan ' Talhaiarn' - dyn tal, main, barfog, sychedig. Cwmnïai â 'Ieuan Fardd' pan oedd hwnnw'n gurad Llanfair, ac â'i gydblwyfolion Robert Thomas a John Powel - canodd farwnad i Powel (gweler Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-86) , t. 736). Noda J. H. Davies (Bibliography of Welsh Ballads, 85, 676, 684, 721) gerddi argraffedig o'i waith - yr enwocaf oedd ei gerdd folawd i'r delyn. Argraffwyd peth o'i waith hefyd yn Cyfaill y Cymro, 1767. Tybir iddo farw tua 1782.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.