THOMAS, ROBERT (bu farw 1774), bardd, a chlochydd Llanfair Talhaearn, sir Ddinbych

Enw: Robert Thomas
Dyddiad marw: 1774
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, a chlochydd Llanfair Talhaearn, sir Ddinbych
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: David Jenkins

Ef a gopïodd gan mwyaf o lawysgrif NLW MS 6146B a gynnwys gerdd rydd o'i waith ar y testun 'Cywydd y Dylluan' (193-8), a chyfieithiad ganddo o'r Lladin o ddarn o ryddiaith 'Am y flwyddyn a'i rhannau' (187 et seq.). Yn ei law ef hefyd y mae cofrestr eglwys Llanfair Talhaearn am y blynyddoedd 1740-74. Cyfeillion iddo oedd Siôn Powel, Dafydd Siôn Prys, ac Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir'). Fe'i claddwyd yn Llanfair Talhaearn ar 18 Rhagfyr 1774; canodd Dafydd Siôn Prys farwnad iddo (gweler Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-86) , t. 736).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.