WILLIAMS, EVAN (1749-1835), llyfrwerthwr a chyhoeddwr llyfrau

Enw: Evan Williams
Dyddiad geni: 1749
Dyddiad marw: 1835
Priod: Frances Williams (née Neat)
Rhiant: Dafydd William
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrwerthwr a chyhoeddwr llyfrau
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Evan David Jones

Un o deulu o bum brawd nodedig, plant Dafydd William, neu David Williams, cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Sir Aberteifi. Gof oedd y tad wrth ei alwedigaeth, a dywedir iddo arfer ei grefft yn Swyddffynnon, yn yr Esgair ger Llangwyryfon, ac ym Mhenygraig, Llanrhystyd. Dichon iddo symud fel hyn yn ôl galwadau stad y Mabws a Ffos-y-bleiddiaid. Y mae'n debyg mai yn Swyddffynnon y magwyd y plant, ond erbyn 1777 ym Mhenygraig y preswyliai'r tad, ac yn ei dŷ ef y cyfarfyddai Methodistiaid Calfinaidd yr ardal honno cyn codi capel Rhiwbwys. A chyfrif o gofnod ei farw, ganwyd Evan Williams yn 1749. Fel ei frodyr, John ('Yr Hen Syr'), Thomas, DAVID (warden elusendy Hungerford, rheithor Heytesbury (a thad C. J. Blasius Williams, y meddyg a'r awdurdod ar afiechydon yr ysgyfaint), a WILLIAM, rheithor Llanstinan, cafodd ei addysg o dan Edward Richard yn ysgol ramadeg Ystrad Meurig. Aeth i Lundain, a chymerth ddiddordeb ym mudiadau Cymreig y ddinas. Daeth yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion yn 1789, ond ni ddringodd i'w swyddi. Bu'n un o ymddiriedolwyr yr ysgol elusen Gymreig, a cheir ei enw yn gyson yn ei chofnodion o 1795 hyd ei farw. Sefydlodd fusnes gwerthu llyfrau gyda' frawd, Thomas, yn 13, Strand. Rhyw 10 mlynedd y bu ei frawd yn y bartneriaeth, ond parhaodd Evan Williams yn y fusnes am dros 40 mlynedd. Dechreuodd y brodyr gyhoeddi llyfrau o ddiddordeb Cymreig. Hyd tua 1800 ymddengys 'E. & T. Williams' fel llyfrwerthwyr ar ddalennau-teitl llyfrau (e.e. yn 1791, Walter Davies, … Rhyddid; D. Thomas, Awdlau …; John Williams, An Enquiry … concerning the Discovery of America; M. Williams, A Treasury of Knowledge). Y flwyddyn wedyn gwelir enw E. Williams gyda J. Owen fel cyhoeddwyr W. Owen Pughe, The Heroic Elegies of Llywarch Hen. Llyfrau pwysig eraill y dechreuwyd eu cyhoeddi gan y ddau frawd a'u gorffen gan E. Williams ei hun, yw William Owen Pughe, A Welsh and English Dictionary, 1793-1803, a The Cambrian Register, 1795-1818. Yn ail gyfrol y Cambrian Register, a ymddangosodd yn 1799, disgrifir y brodyr fel 'E. & T. Williams (successors to Mr. Blamire) 11, Strand,' ac yr oedd ganddynt ystordy yn 156, Leadenhall Street. Yn 1803 ymddangosodd cnwd cyntaf cyhoeddiadau E. Williams ar ei ben ei hun fel 'Bookseller to the Duke and Dutchess of York, and successor to Mr. Blamire.' Y llyfrau cyntaf hyn oedd Cambrian Biography W. Owen Pughe, A Vindication of the Celts W. Coxe, A Vindication of the genuineness of the Ancient British Poems Sharon Turner, a History of the Cymry Peter Roberts. Ni ellir enwi'r holl lyfrau ar hanes, barddoniaeth, ieitheg, a hynafiaethau Cymru y bu gan E. Williams ran yn eu cyhoeddi, ond dylid nodi The poetical works of Edward Richard, 1811, Cambria Depicta E. Pugh, 1811, Cambrian Popular Antiquities Peter Roberts, 1815, Coll Gwynva, 1819, a Hu Gadarn, 1822, y ddau gan W. Owen Pughe. Gair digon gwael sydd i Evan Williams yn llythyrau llenorion y cyfnod. Fe'i gelwir yn 'Mr. Skinflint' ac yn 'Skin-devil Williams.' Eto, antur ydoedd cyhoeddi'r math o lyfrau y bu ef yn gyfrifol am eu dwyn allan, a theg yw talu teyrnged iddo ar gyfrif ei restr werthfawr o gyhoeddiadau Cymraeg a Chymreig. Priododd â Frances, merch hynaf Robert Neat, Saltross, Wiltshire. Bu hi farw yn 1814 yn 52 oed. Yr oedd ef yn 86 pan fu farw yn Penton Street, 25 Awst 1835, a'i gladdu ym mynwent S. James, Pentonville.

Troes ei frawd

THOMAS WILLIAMS (1755 - 1839)

i fyd bancio a dychwelodd i'w sir enedigol gan gymryd cyfran, 13 Medi 1808, ym manc y Mri. Jones, Davies, a Williams (gynt Jones, Morgan, a Davies) a elwid yn Fanc y Llong yn Heol y Bont, Aberystwyth. Daeth y bartneriaeth hon hefyd i ben yn 1815-6, a thybir i Fanc y Llong beidio a bod y pryd hwnnw, ond yr oedd Williams, Davies, a'u Cwmni yn rhedeg banc yn yr un adeilad, ac yn dal cysylltiad â'r un cynrychiolwyr yn Llundain (Syr James Esdaile & Co.) yn 1835. Bu Thomas farw 15 Ebrill 1839 yn 84 oed. Y mae cofeb iddo ef a'i wraig (Margaret, a fu farw 25 Rhagfyr 1849) ym mhorth eglwys S. Mihangel, Aberystwyth, eglwys y rhoesai ef £100 tuag at ei hailadeiladu yn 1830.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.