Dywedir iddo gael ei eni yn Rhuthyn. Dangoswyd 23 o'i ddarluniau yn yr Academi Frenhinol rhwng 1793 a 1808, y mwyafrif ohonynt yn fân-ddarluniau, gan gynnwys un darlun o Thomas Edwards ('Twm o'r Nant'). Ymddengys mai yn Llundain y treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn ystod y blynyddoedd hyn er mai yng Nghaerlleon y ceir ei gyfeiriad yn 1800. Dangoswyd un darlun arall o'i eiddo yn yr Academi yn 1821. Dywedir iddo ymuno â chorfflu gwirfoddol o artistiaid yn 1803. Defnyddiwyd darluniau o'i eiddo ar gyfer Modern London, a gyhoeddwyd yn 1805, ac ysbrydolwyd ef gan Boydell i ysgrifennu disgrifiad o Ogledd Cymru. Cyhoeddwyd y gwaith hwn, ynghyd â dros 70 o ddarluniau gan yr awdur, yn 1816, ar ôl marw Pugh, dan y teitl Cambria Depicta: A Tour through North Wales. Yn ôl y rhagair, dyddiedig yn Rhuthyn, 10 Mai, 1813, bu wrth y gwaith am naw mlynedd. Bu farw Edward Pugh, a ddisgrifir fel 'limner,' yn Well Street, Rhuthyn, yn 52 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Rhuthyn 20 Gorffennaf 1813.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.