Ganwyd 'Sul y Blodau,' 1803, yn y Parcau, Trefdraeth, Sir Benfro, mab Dafydd a Hannah Hughes. Addysgwyd ef yn ysgolion gramadeg Caerfyrddin, Aberteifi, Ystrad Meurig (1824), a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (1827). Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1828 gan esgob Tyddewi (Jenkinson) ac yn offeiriad yn 1829. Ei unig guradiaeth yng Nghymru oedd Llanfihangel Penbedw, Penfro. Penodwyd ef yn beriglor cyntaf eglwys newydd Lockwood, Almondbury, swydd Efrog. Yno, 30 Awst 1837, priododd Catherine Laycock, Armitage Bridge - y briodas gyntaf yn eglwys Lockwood. Aeth i Lerpwl i guradu, ond gadawodd ar derfyn blwyddyn er siom i Gymry 'r ddinas. Troes ei wyneb drachefn i swydd Efrog, gan dderbyn ' curadiaeth barhaol ' Meltham. Yno yr arhosodd nes y bu farw 8 Tachwedd 1863; ym mynwent S. Bartholomew, Meltham, y gorffwys ei lwch, ac eiddo ei wraig, a'i unig blentyn, Jane Gwenhwyfar, yn yr un bedd. Fel ' Carn Ingli ' yr adwaenid ef gan y Cymry. Deuai i Gymru i'r eisteddfod agos bob blwyddyn. Bu'n arwain droeon, a mynych a fu'r galw arno yng nghyfnod 'eisteddfodau'r clerigwyr.' Cafodd le amlwg yn eisteddfod Madog yn 1851, ac efe ac ' Ab Ithel ' oedd prif hyrwyddwyr eisteddfod hynod Llangollen yn 1858. Brithir y cylchgronau cyfoes â'i englynion. Rhagorai fel cyfieithydd i'r Gymraeg, e.e. emyn cenhadol hysbys yr esgob Heber, a rhannau o ' Night Thoughts ' Young. Ystyrir ei History of Meltham yn waith safonol. Un o'r clerigwyr efengylaidd ydoedd. Pan gorfforwyd ' Cymdeithas y Clerigwyr Cymreig ' yn swydd Efrog, i astudio anghenion Cymru, ' Carn Ingli ' a benodwyd yn ysgrifennyd iddi, a'i bardd swyddogol. Croniclodd ei gweithrediadau i'r cylchgronau a'r papurau Cymraeg, a thrwy'r gymdeithas honno'n bennaf y gwasnaethodd Gymru ei gyfnod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.