Graddiodd yn ddisgybl pencerddaidd yn eisteddfod Caerwys, 1568. Cynnwys ei waith ganu i aelodau o deuluoedd Bodeon, Bodfel, Clenennau, Llwydiarth, Myfyrian, Mysoglen, Penrhyn, Plas Newydd, ac Ystumcegid. Ceir hefyd gywyddau serch ac englynion o'i waith. Am gasgliad o'i farddoniaeth gweler Llanstephan MS 122 (236-92).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/