PIERCE, THOMAS JONES (1905 - 1964), hanesydd

Enw: Thomas Jones Pierce
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1964
Priod: Margaret Pierce (née Williams)
Rhiant: Winifred Pierce
Rhiant: John Pierce
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd 18 Mawrth 1905 yn Lerpwl yn fab i John a Winifred Pierce. Addysgwyd ef yn y Liverpool Collegiate School a Phrifysgol Lerpwl lle y graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn hanes yn 1927, ac ennill Ysgoloriaeth Chadwick (1927), Gwobr Goffa Gladstone (1928) ac M.A. (1929). Wedi cyfnod byr yn gymrawd yn y Brifysgol penodwyd ef yn 1930 yn ddarlithydd yn adran hanes Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ond gyda dyletswyddau ychwanegol yn yr adran efrydiau allanol. Yn 1945 gwahoddwyd ef i swydd Darlithydd Arbennig yn Hanes Canoloesol Cymru, penodiad ar y cyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a dyrchafwyd ef yn Athro Ymchwil yn 1948. Etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hynafiaethwyr (F.S.A.) yn 1950. Bu'n ymchwilydd yn y Llyfrgell Genedlaethol (cyhoeddwyd Clenennau letters and papers yn 1947), yn ddarlithydd tra effeithiol yn y coleg ac mewn dosbarthiadau allanol a chymdeithasau lleol, ac yn weithgar mewn nifer o gylchoedd: golygydd Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (1939-63), cadeirydd Cyngor y Gymdeithas (1962-64), ysgrifennydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru (1946-55), cadeirydd ei phwyllgor cyffredinol (1956-64), a llywydd y Gymdeithas (1964). Bu'n Uchel Siryf Ceredigion 1960-61, ac yr oedd yn flaenllaw ym mudiad Rotary.

Priododd Margaret (Megan) Williams yn 1944 a bu iddynt ferch a mab. Bu farw yn Aberystwyth (yn Brynhyfryd, Tal-y-bont, Ceredigion, yr oedd ei gartref) 9 Hydref 1964 ac amlosgwyd ei gorff yn amlosgfa Anfield, Lerpwl.

Yr oedd T. Jones Pierce yn ddisgybl i William Garmon Jones yn Lerpwl ond dylanwadwyd arno yn arbennig gan John Edward Lloyd y bu'n cydweithio ag ef ym Mangor. Yn ei dro bu yntau'n ysbrydoliaeth i genedlaethau o haneswyr ifainc Cymru a chael ei gydnabod yn un o haneswyr mwyaf creadigol ei gyfnod ac arloeswr yn hanes cymdeithasol y newid o system lwythol a datblygiad yr ystadau tir. Dros y blynyddoedd cyhoeddodd nifer o astudiaethau o broblem strwythur gymdeithasol Cymru yn y cyfnod canol a'r cyfnewidiadau yn arferion daliadaeth tir. Ef oedd un o'r rhai cyntaf i gynnig dadansoddiad manwl o dystiolaeth cyfraith Hywel Dda i weithredu galanas a thir gwely, a thrwy ddangos yr elfen ddeinamig a datblygiadol sydd yn y llyfrau cyfraith a'r modd y gweithredid y gyfraith yn y llysoedd, taflodd ffrwd o oleuni ar bwnc dyrys daliadaeth tir yng Nghymru. Y mae ei astudiaethau o Wynedd y 13eg ganrif. yn anhepgor i ddeall datblygiad economaidd, gwleidyddol a chyfansoddiadol y dalaith honno. Ni lwyddodd i gwblhau llyfr ar y meysydd hyn ond casglwyd ei brif erthyglau yn gyfrol (sy'n cynnwys llyfryddiaeth lawn) gan J. Beverley Smith, Medieval Welsh society (1974).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.