JONES, WILLIAM GARMON (1884 - 1937), athro hanes, a llyfrgellydd Prifysgol Lerpwl

Enw: William Garmon Jones
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1937
Priod: Eluned Jones (née Lloyd)
Rhiant: Jane Jones (née Jones)
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro hanes, a llyfrgellydd Prifysgol Lerpwl
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John John Williams

Ganwyd 15 Tachwedd 1884 yn Birkenhead, mab William Jones, Birkenhead (o ffyrm Jones, Burton, a'r Cwmni, peirianwyr, Lerpwl), a Jane Jones, o'r Wyddgrug. Addysgwyd ef yn Ysgol y Brenin William, Ynys Manaw, a phan orffennodd ei gwrs yno ei fwriad ydoedd cyfaddasu ei hun ar gyfer masnach. Bu mewn swyddfa yn Lerpwl am ddwy flynedd, ac yn 1903 aeth i Brifysgol Lerpwl i weithio am radd mewn peirianaeth. Cwplâodd yr 'Intermediate' yn 1905, ond erbyn hynny yr oedd wedi dod dan ddylanwad yr athro J. M. Mackay, a daeth o hyd i'w briod faes - hanes a llenyddiaeth. Trodd ei gefn ar beirianaeth, ac yn 1905 ymunodd ag adran y celfyddydau. Yn 1908 enillodd ei radd mewn hanes, gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf, a dyfarnwyd iddo hefyd y ' Charles Beard Fellowship.' Yn 1909 enillodd radd M.A., a gwnaed ef yn gymrawd o'r brifysgol.

Treuliodd ei holl yrfa, o hynny ymlaen, yng ngwasanaeth Prifysgol Lerpwl, ac ar gyfrif ei fedr gweinyddol cydnabyddir iddo chwarae rhan tra phwysig yn ei datblygiad. Bu'n ddarlithydd mewn hanes (1913-9), ac yn athro ychwanegol ('associate') o 1924 hyd ei farw; yn 1928 fe'i penodwyd hefyd yn llyfrgellydd y brifysgol.

Cyhoeddodd ' A Welsh Sunday Epistle ' (Mackay Miscellany); ' Bosworth Field, an episode of Welsh history ' (Trans. Liverpool Welsh National Society), 1912; ' York and Lancaster ' (Bell's Source Books of English History); ' Welsh Nationalism and Henry Tudor ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1917-8).

Yn 1923 priododd Eluned, unig ferch Syr John Edward Lloyd, Bangor. Bu farw 28 Mai 1937, a chladdwyd ef ym meddrod ei deulu ym mynwent Flaybrick, Birkenhead. Dodwyd cofeb iddo, wedi ei cherfio gan Tyson Smith, yn llyfrgell Cohen, Prifysgol Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.