PUW (TEULU), o'r Penrhyn Creuddyn, Sir Gaernarfon

Ymdrinir yma â rhai o aelodau'r teulu yn eu trefn amseryddol.

PUW, GWILYM (c. 1618 - c. 1689); llenor Catholig, milwr, meddyg, ac aelod o Urdd y Benedictiaid CrefyddLlenyddiaeth ac YsgrifennuMeddygaethMilwrol;

trydydd mab Phylip Puw (isod) a Gaynor Gwyn o'r Penrhyn yn y Creuddyn, Sir Gaernarfon, a brawd Robert Puw (isod). Yr oedd yn gapten ym myddin Siarl I yn Raglan yn 1648, ac wedi cyfnod o grwydro ar y Cyfandir ymunodd ag Urdd y Benedictiaid yn S. Edmwnd, Paris, yn 1660, pryd y dychwelodd i Gymru i genhadu ac i dreulio gweddill ei oes yn sir Fynwy. Gwnaeth ei gartref yn y Blackbrook, trigfan hen deulu Pabyddol y Morganiaid, ac, yn ddiweddarach, y teulu Bodenham. Canodd gerddi ar fesurau caeth a rhydd. Lluniodd ddau gywydd arbennig iawn, sef ‘Buchedd em harglwydd Iessu Grist’ (2,000 o linellau) a ‘Llwyrwys Penrhyn Ai Mawl.’ Cyfansoddodd dair awdl ac y mae ganddo emynau ar ffurf englynion. Ond diffygiol iawn ydyw crefft ei gerddi caeth hyn. Bychan ydyw cyfanswm ei gerddi rhydd. Y bwysicaf ohonynt ydyw ‘Buchedd Gwenn Frewu Santes’ ar fesur tri thrawiad. Cyfieithodd The Jesus Psalter (arg. 1624) yn Gymraeg, a pharatôdd gatecism Cymraeg a Lladin, sef ‘Crynodeb or Athrawiaeth Gristnogawl.’ Cadwyd ei waith mewn llawysgrifau, sef NLW MS. 4710 a 13167, a thystia'r rheini hefyd ei fod yn feddyg, ac efallai yn delynor.

PUW, PHYLIP (bu farw 1637), anghydffurfiwr Catholig Crefydd;

ail fab Robert Puw (isod) o'r Penrhyn yn y Creuddyn, Sir Gaernarfon. Priododd Gaynor Gwyn, merch Syr Rhisiart Gwyn, Caernarfon, ac Elen Gruffydd o'r Penrhyn, Is-y-garth, sef ŵyres Syr William Gruffydd, y siambrlen. Yr hanes cyntaf sydd gennym amdano ydyw ei fod yn Ogof Rhiwledyn gyda'i dad adeg argraffu Y Drych Cristianogawl yn y flwyddyn 1585. Cofnodir hefyd iddo gael ei erlid gan Lewis Bayly, esgob Bangor. Hyd y gwyddys, treuliodd ei oes yn y Creuddyn. Claddwyd ef, ynghyd â'i wraig, yn eglwys Rhos. Bu iddynt 12 o blant, pump yn ferched a saith yn fechgyn. Listiodd y mab hynaf, Rhisiart, ym myddin Siarl I yn ystod y Rhyfel Cartref; ffaith arall a wyddom amdano ydyw iddo farw yn yr India. Yr enwocaf o'r meibion ydyw Robert Puw, Gwilym Puw, a Siôn Puw. Cafodd y tri mab arall fywyd o alltudiaeth. Aeth Gruffydd i Iwerddon. Bu farw Herbert yn Ffrainc ac Ifan yn Sbaen.

PUW, ROBERT (bu farw c. 1629), anghydffurfiwr Catholig Crefydd;

mab Reginallt fab Hugh o'r Penrhyn yn y Creuddyn, Sir Gaernarfon. Priododd Sian Bwcle, merch Syr Rhisiart Bwcle. Tystia ei ŵyr, Gwilym Puw, iddo gael ei addysg yn Rhydychen ac iddo ddilyn cwrs yn y gyfraith yn Llundain. Bu'n aelod seneddol dros sir Ddinbych yn 1559, yn uchel siryf dros yr un sir yn 1562, a chyn hynny, yn 1560, dros Sir Gaernarfon. Yr oedd yn ŵr o grefyddolder mawr. Ymlynodd wrth y ffydd Gatholig er gwaethaf pob erlid. O 1580 ymlaen tyfodd cyfathrach agos rhyngddo a theulu Pabyddol Houghton o Lea Hall yn ymyl Preston, Lancashire. Pan ddechreuodd yr iarll Pembroke, llywydd cyngor y gororau, ei ymgyrch yn erbyn y Catholigion Cymreig yn 1586, cawn fod Robert Puw a'i deulu, a William Davies, y merthyr, wedi bod yn ymguddio yn Ogof Rhiwledyn ar y Gogarth Bach am dri chwarter blwyddyn ac wedi ymgymryd ag argraffu Y Drych Cristianogawl yno. Dihangodd oddi yno i Lancashire ac yna i Cowdray yn Sussex i gartref iarll Montague. Edrychid arno adeg cynllwyn Syr William Stanley fel un y gellid dibynnu arno i arwain gwrthryfel yng Ngogledd Cymru. Beth bynnag, wedi blynyddoedd yn ‘treiglaw Gwledudd,’ carcharwyd ef. Nid yw'n annhebyg nad ef ydyw'r Robert Puw a gyhuddwyd o anghydffurfiaeth ym mhedwaredd flwyddyn teyrnasiad Iago I. Daeth i adnabyddiaeth bersonol â'r brenin, a sicrhaodd hwnnw iddo ryddid i addoli fel y mynnai, a dychwelodd Robert i'r Creuddyn i dreulio 26 blynedd olaf ei oes. Bu farw tua'r flwyddyn 1629, a chladdwyd ef a'i wraig yn eglwys Rhos.

PUW, ROBERT, alias ROBERT PHYLIP (1609 - 1679), awdur, offeiriad, a merthyr Catholig CrefyddLlenyddiaeth ac Ysgrifennu;

ail fab Phylip Puw (uchod) a Gaynor Gwyn o'r Penrhyn yn y Creuddyn, Sir Gaernarfon, a brawd Gwilym Puw (uchod). Bu dan addysg yng ngholeg y Jesiwitiaid yn S. Omer; ymaelododd yn y coleg yn 1628. Wedi cyfnod o wasanaeth yn gaplan ym myddin y Saeson yn yr Iseldiroedd, daeth ar genhadaeth i Gymru, ond torrodd ar ei gynlluniau wrth ymuno â byddin Siarl I yn erbyn y Seneddwyr a thrwy ymddeol o Gymdeithas yr Iesu. Yn fuan wedi'r Rhyfel Cartref cawn ef ym Mharis yn astudio cyfraith wladol ac eglwysig. Dywaid ei frawd, Gwilym, ei fod yn gyfarwydd ag amryw ieithoedd, ac enwir Lladin, Groeg, Hebraeg, Eidaleg, Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Saesneg, a Chymraeg. Yn 1655 penodwyd ef gan y Pab yn ‘protionotarius publicus apostolicus.’ Bu'n athro ar Harri, dug Caerloyw, ac yn gaplan i'r frenhines Henrietta Maria. Pan adferwyd y Stiwardiaid, gwnaeth ei gartref gyda'r iarll Powys yng nghastell Powys. Yno, ond odid, y trigai yn 1659 pan gyhoeddodd ym Mharis De Anglicani Cleri Retineda in Apostolicam Sedem observantia, ac yn 1661 pan ymddangosodd ei ail lyfryn Excantationis Amuletum. Ynddynt ymosodai ar ddaliadau Thomas White neu Blackloe ynglŷn â threfn eglwysig yn yr Eglwys Gatholig yn Lloegr ar y pryd, a'r un modd yn ei gyhoeddiad diweddarach Blacklo's Cabal discovered (ail arg., 1680). Ymddangosodd llyfr arall o'i waith yn 1676, sef Barthonensium et Aquisgranensium Camparatio, rebus adjunctis illustratis. Iddo ef y priodolir Elenchus Elenchi: sive Animadversiones in Georgei Batei, Cromwelli parricidae aliquando protomedici, Elenchum motuum nuperorum in Anglia (Paris, 1664), ac ystyrir ef yn gydawdur The English Papist's Apologie, 1666. Os cymerwn air Wood, erys peth o'i waith mewn llawysgrif. Pa fodd bynnag oherwydd tybied bod a wnelai ef â chynllwyn Titus Oates, fe'i carcharwyd yn Newgate, lle y bu farw ym mis Ionawr 1679.

PUW, SION, neu IOANNES PHILIPPI (1620 - 1645), Pabydd Crefydd;

pedwerydd mab Phylip Puw a Gaynor Gwyn o'r Penrhyn yn y Creuddyn, Sir Gaernarfon, a brawd Robert Puw (uchod) a Gwilym Puw (uchod). Ymaelododd yng Ngholeg y Saeson, Rhufain, yn 1640, ac yno y bu farw ym mis Gorffennaf 1645.

Dyddiad cyhoeddi: 1953