Ganwyd yn Islington ar y 3ydd o Ionawr 1854; aeth i ysgol Rugby (ar derfyn ei yrfa yno, yr oedd yn 'ben yr ysgol') ac i Goleg S. Ioan yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd yn 1877 gydag anrhydedd yn y dosbarth blaenaf (1876) mewn gwyddoniaeth - cemeg yn arbennig. O 1877 hyd 1879 bu'n un o athrawon y tywysog Siôr (Siôr V) a'i frawd hynaf, ar fwrdd y llong Britannia. Yn ddiweddarach, bu ganddo ysgol breifat yn Fareham. Yn 1904, ymneilltuodd i fyw yn Cae'r Carw, Llanfairfechan, ac yno datblygodd ddiddordeb a gweithgarwch mawr yn hanes a hynafiaethau Gwynedd : yr oedd yn un o aelodau bore'r 'Llandudno Field Club,' a bu am flynyddoedd lawer yn olygydd ei Drafodion; yr oedd hefyd yn aelod o Gymndeithas Hynafiaethol Cymru, a chyfrannodd ysgrifau (megis 'The Price Families of Plas Iolyn and Gilar,' 1912) i Archæologia Cambrensis Mwy hysbys yw'r rhes o lyfrau a gyhoeddodd ar ei draul ei hunan, yn enwedig The Heart of Northern Wales; ei fwriad ar y cychwyn (1911) oedd dwyn allan argraffiad diwygiedig o History of Aberconwy Robert Williams, ond gwelodd na thyciai hynny, a thyfodd y gwaith yn llyfr dwy gyfrol (1912 a 1927) yn ymdrin â chylch llawer helaethach. Heblaw'r llyfr hwn, cyhoeddodd Lowe adargraffiad (1906) o Survey of Penmaenmawr, John Wynn o Wydir; Abbeys and Convents of the Vale of Conway, 1912, gyda Thomas Elias; Llansannan, 1915; ac amryw deithlyfrau a mapiau. Eisoes cyn ymddangosiad yr ail gyfrol o'r Heart of Northern Wales yr oedd ei iechyd wedi torri, ac yntau wedi symud (1926) i Fangor, lle y bu farw 7 Mai 1928, yn 72 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.