RAFF ap ROBERT (fl. 1550) o'r Cilgwyn, Bachymbyd yn sir Ddinbych, un o rydd-ddeiliaid Dyffryn Clwyd a bardd yn canu ar ei fwyd ei hun

Enw: Raff ap Robert
Plentyn: Edwart ap Raff
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd yn canu ar ei fwyd ei hun
Cartref: Cilgwyn
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

(Jes. Coll. MS. 18). Ceir ei ach yn Peniarth MS 134 (142-3). Gan iddo ganu cywydd marwnad i Dudur Aled (c. 1525), a chan fod y dyddiad 1582 wrth un arall o'i gywyddau, gellir tybio iddo gael oes hir; ceir ateg i hynny yng nghywydd marwnad Siôn Tudur iddo yn Llanstephan MS 166 . Ymhlith ei waith ceir englynion dychan i Ruffudd Hiraethog ac englynion rhyngddo a Robin Clidro a Wiliam Llŷn. Yr oedd Edwart ap Raff yn fab iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.