Mab Raff ap Robert. Mewn cywydd a ganodd yn 1602 'wedi iddo vynd yn hen, ac yn dangos i gerdded gynt' cyfeiria at frwydr S. Quentin, 1557, fel petai'n bresennol ynddi yn fachgen ieuanc. Yn N.L.W. MS. 5282 disgrifir ef fel ' prydydd dall 1587,' ond ni ddywedir hynny yn unman arall. Canodd yn bennaf i uchelwyr Dyffryn Clwyd a cheir marwnadau ganddo i Siôn Tudur (1602) a Simwnt Fychan, (1606). Y mae casgliad o'i waith yn Llanstephan MS 36 . Ceir ach un o'r enw yn Llsgr. Pen. 134 (142-3).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.