CLIDRO, ROBIN (fl. 1580), clerwr

Enw: Robin Clidro
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerwr
Maes gweithgaredd: Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

brodor o Ddyffryn Clwyd, medd rhai. (Y mae lle o'r enw Cludro ym mhlwyf Llangefni ym Môn.) Canai gerddi ar destunau digrif, fel marwnad i'w gath, hanes ymweliad â Llwydlo, disgrifiad o bysgotwyr. Y mae'r cerddi hyn yn llawn o gellwair, a hwnnw'n fras yn fynych. Defnyddiai fesur nas ceir ond gan raddau isaf y beirdd, ac nas defnyddid, y mae'n ymddangos, i ganu dim difrif, sef amrywiad ar y gyhydedd hir, gyda chynghanedd ysgafn rhwng y trydydd cymal a'r pedwerydd. Canodd Siôn Tudur farwnad iddo ar gynghanedd anafus fel a ddefnyddiai Clidro 'i hun, ac yn ei theitl dywedir iddo gael ei ladd gan ladron yn y Deheudir. Ond dylid cadw mewn cof y geill mai marwnad gellweirus i ddyn byw ydyw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.