LANGFORD (TEULU), o Drefalun, Gresford

Dywedir yn y llyfrau achau mai o Leicestershire y daeth teulu Langford i Ruthyn gydag un o'r arglwyddi Grey. Dengys y cofnodion cynharaf fod JOHN LANGFORD yn stiward dyffryn Clwyd ac yn gwnstabl castell Rhuthyn rhwng 1403 a 1412. Rhoes Edmwnd, arglwydd Grey, rysyfwriaeth arglwyddiaeth Rhuthyn i RICHARD LANGFORD, 1441, mab y John uchod, a chwnstabliaeth castell Rhuthyn iddo ef a'i fab Edward, 1447. Bu ef farw 12 Gorffennaf 1466, ddwy flynedd ar ôl ei wraig Alis, ferch ac aeres Hywel ap Gruffudd ap Morgan, yr Hôb, gweddw John ap Richard Wettenhale. Eu hetifedd oedd yr EDWARD LANGFORD a enwyd eisoes. Gwnaethpwyd ef yn siedwr ac atwrnai arglwyddiaeth Dinbych am ei wasanaeth personol i Harri VI yn erbyn Richard, dug Iorc, 4 Chwefror 1460. Priododd ef Elen (bu farw 1465), ferch John Dutton, a bu farw 12 Tachwedd 1500. Eu mab hwy, JOHN LANGFORD, oedd y cyntaf i fyw yn Nhrefalun, fel priod Catherine, merch ac aeres William ap Dafydd (bu farw 1476) ap Gruffudd o'r lle hwnnw. Bu ef farw 26 Rhagfyr 1531.

Mab iddynt hwy oedd

'yr hen RICHARD LANGFORD ' (bu farw 1586),

Geilw John Gruffudd, Cae Cyriog, ef yn lifftenant Maelor a Iâl o dan William Herbert, iarll Penfro. Ymddiddorai ef yn hen lenyddiaeth Cymru a chopïodd lawysgrifau megis ' Llyfr Gwyn Rhydderch ' yn 1573, gan gynnwys darnau a gollwyd wedyn o'r llyfr hwnnw. Ychydig o'i waith a gadwyd. Gall fod rhannau o Peniarth MS 283 (achau) yn ei law, ond mewn copiau eraill y cadwyd y manion gramadegol (Peniarth MS 169 , Hafod 24), a'r hen englynion (Peniarth MS 111 ) a roes ef ar glawr. O'i wraig gyntaf Margaret, ferch John Almor, cafodd yn feibion John Langford, Edward (efallai mai ef a ysgrifennodd ei enw yn Peniarth MS 56 (99); priododd Catherine ferch Humphrey Llwyd, siryf Maldwyn, 1540, a'i wyr THOMAS LANGFORD a ysgrifennodd lyfr achau Bodewryd MS 102D ), William, Roger, Dafydd, a Mathew, ac o ferched, Elizabeth, Catherine, ac Ann. O'i ail wraig, Marsli ferch John ab Ieuan ap Hywel o Drefriw, cafodd Thomas, George, Owen, Jane, Elen, Sian, ac Alis.

JOHN LANGFORD

Priododd Catherine ferch John ap Harri Jervis o Ruthyn. Bu ef farw 27 Mawrth 1606. Ei etifedd oedd RICHARD LANGFORD (bu farw 1643), uchel siryf sir Ddinbych, 1640. O'i wraig Elizabeth (bu farw 1657), ferch Thomas Wyn ap John ap Harri, bu iddo saith o feibion a naw o ferched, heblaw pedwar plentyn a fu farw yn fabanod. Dylid enwi'r aer JOHN LANGFORD, a briododd Elizabeth ferch Seimon Thelwal, Plasyward, Catrin a briododd Walter Cradoc - gweler Trans Cymm., 1941, 181-2, a

WILLIAM LANGFORD (1602 - 1668), rheithor

Ganwyd 12 Ebrill 1602; addysgwyd yn Gresford, Rhuthyn, a Choleg Brasenose - B.A. 1620, M.A. 1623; aelod o deulu Godfrey Goodman, esgob Gloucester, is-feistr ysgol ramadeg Rhuthyn 1624, prifathro yno 1626-50, rheithor Heneglwys ym Môn 1630, ficer y Trallwng 1632, rheithor Llanerfyl 1637, canon Llanelwy 1639, a rheithor Llanfor 1644. Collodd ei fywiolaethau oll ond Llanfor o dan y Werin-lywodraeth, eithr adferwyd ef i'r Trallwng yn 1661, a chafodd reithoraeth castell Caereinion yn 1664. Gwnaeth ewyllys hunan-fywgraffyddol gwynfannus - Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xiii, 259 - a bu farw 17 Mehefin 1668 a'i gladdu yn y Trallwng. Er peth gwrthdaro rhyngddynt, y mae gan Richard Davies, y Crynwr, air o glod i'w ysbryd cymdogol cyfeillgar - gweler An Account of the Convincement, 3ydd arg., 111.

Ail fab John Langford, yntau o'r un enw, a etifeddodd Drefalun. Bu'n siryf sir Ddinbych, 1677, ac yr oedd ei wraig, Mary ferch Jonathan Green, yn weddw yn 1687. Bu dau o'u meibion farw'n ddiblant o gylch dyddiad marw eu tad, rhwng Rhagfyr 1686 a Ionawr 1687. Ni adawodd yr etifedd RICHARD LANGFORD (ganwyd 1672) ond dwy ferch, ac felly y peidiodd y brif linach wrywaidd, ond arhosai nifer o ganghennau eraill yn dwyn yr enw. Un o'r rheini oedd tylwyth John Langford, cyfieithydd The Whole Duty of Man.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.