Ganwyd 28 Chwefror 1583, nai Gabriel Goodman. Cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt (1592-1607). Trwy ffafr cyfeillion i'w ewythr a ffafr y brenin Iago I a'r frenhines Anne, cafodd ei ethol i nifer o fywiolaethau yn Lloegr ac yng Nghymru. Dewiswyd ef yn ddeon Rochester yn 1621, ac yn esgob Caerloyw yn 1625. Pan ddaeth Siarl I i'r orsedd yn 1625 fe'i cafodd ei hun fwy a mwy heb gydymdeimlad â'r polisi crefyddol. Rhwng 1626 a 1640 yr oedd tystiolaeth yn crynhoi a awgrymai ei fod wedi troi'n Babydd. Yn 1640 fe'i carcharwyd am wrthod torri ei enw wrth ganonau Laud, eithr fe'i rhyddhawyd pan gytunodd i wneuthur hynny. Bu yng ngharchar ddwywaith wedi hynny cyn 1643 a chymerwyd y rhan fwyaf o'i eiddo oddi arno. Yn ystod rhan o'r cyfnod 1643-7 bu'n llochesu ar eiddo (Tŷ Du) a oedd ganddo yn Llanberis.
Bu farw yn Westminster ar 19 Ionawr 1656. Yn ei ewyllys yr oedd cydnabyddiaeth a oedd yn amwys o blaid uchafiaeth Eglwys Rhufain. Y mae ymchwil arbenigwyr y dyddiau hyn yn ein tueddu i gredu na ddychwelodd yn ffurfiol at Babyddiaeth ond ei fod yn dymuno'n ddiffuant y byddai i Eglwys Loegr gyfamodi ag Eglwys Rufain. Cafodd tref Rhuthyn lesâd o dan ei ewyllys.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.