Ganwyd yn 1528, ail fab Edward Goodman (bu farw 1560), Rhuthyn. Cafodd ei addysg yng Nghaergrawnt (B.A. 1550, M.A. 1553, D.D. 1564); bu'n gymrawd Coleg Crist, 1552-4, ac yn gymrawd Coleg Iesu, c. 1554-5. Tua'r flwyddyn 1555 aeth i wasanaeth William Cecil (yr arglwydd Burghley yn ddiweddarach) fel caplan. Cydolygai â'r sefydliad eglwysig a wnaethpwyd yn nheyrnasiad Edward VI, ymddangosai fel pe'n cytuno â'r trefniant eglwysig a wnaethpwyd yn nheyrnasiad Mari, a derbyn y trefniant yn adeg Elisabeth yn gyfan gwbl; yr oedd yn casáu'r Pabyddion a'r Piwritaniaid fel ei gilydd. Bu'n rheithor South Luffenham, sir Rutland, 1558, yn rheithor Waddesdon, sir Buckingham, 1559-82, yn ganon eglwys gadeiriol S. Paul, 1559, yn ganon Westminster, 1560, ac yn ddeon Westminster, 1561-1601. Bu'n gwasanaethu fel aelod o Lys yr Uchel Gomisiwn yn fynych. Yn 1575 bu'n helpu yng nghondemnio Peters a Turnwort, Bedyddwyr ('Anabaptists') o Holland a losgwyd yn Smithfield y flwyddyn honno. Ni lwyddodd i gael ei wneuthur yn esgob, serch iddo gael ei ystyried am Lundain (1570), Norwich (1575), Rochester (1581), Worcester, Rochester, a Chichester (1584), a Chaer (1596). Y mae'n debyg iddo fethu llwyddo oherwydd ei fod yn gwrthwynebu Leicester, oherwydd ei bwysigrwydd fel aelod o Lys yr Uchel Gomisiwn, a'r gair a roddid iddo fel ' a grave, solid man, yet … peradventure too severe ' (Strype, Parker, ii, 6, 1570). Yr oedd yn un o'r comisiynwyr a ddewiswyd i wella'r drygau yn yr ' Hospital of the Savoy,' yn aelod o'r comisiwn brenhinol a ddewiswyd i setlo'r trefniadau ynglŷn â Choleg Iesu, Rhydychen, 1589; bu a fynnai hefyd â'r gwaith o sefydlu Coleg Sidney Sussex, Caergrawnt, 1598. Yr oedd yn un o ysgutorion ewyllys Burghley.
Yr oedd ei ddylanwad gyda'r Ceciliaid yn peri ei fod yn ddolen gydiol rhwng Cymru a'r Llys. Bu'n helpu yn nwyn allan Feibl yr Esgob Morgan (1588), ac yr oedd yn gyfrifol am gyfieithu 1 Corinthiaid ym Meibl yr Esgobion (1568). Yn 1590 sefydlodd Christ's Hospital, Rhuthyn (gyda llywydd, warden, a 12 o letywyr tlawd), gan ei noddi â degymau Rhuthyn a Llanrhydd a brynodd gan y gwŷr lleyg a'i meddianasai wedi i eglwys golegol S. Pedr gael ei diddymu. Yn 1595 ychwanegodd ysgol ramadeg at yr Hospital. Yn 1600 dug i sylw Cecil betisiwn oddi wrth drigolion Rhuthyn a oedd yn cwyno oblegid baich eu trethi at amrywiol achosion, ac ychydig fisoedd cyn ei farw yr oedd yn ddiwyd yn ei ymdrech (nas llwyddodd) i gael siarter newydd i'r fwrdeisdref. Bu farw 17 Mehefin 1601 a chladdwyd yn abaty Westminster.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.