LANGFORD, JOHN (1650? - 1715/6?).

Enw: John Langford
Dyddiad geni: 1650?
Dyddiad marw: 1715/6?
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: David Gwenallt Jones

Ganwyd yn Rhuthyn (gweler yr erthygl ar deulu Langford o Drefalun, Gresford). Ymaelododd yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, 23 Gorffennaf 1656 : B.A., Rhydychen, 1659-60; M.A., o Goleg Iesu, Caergrawnt, 1669. Gwnaed ef yn rheithor Efenechtyd, sir Ddinbych, 1 Ebrill 1663, yn rheithor Derwen, sir Ddinbych, 20 Mai 1672, yn rheithor Llanelidan, sir Ddinbych, 19 Mehefin 1684. Cyfieithodd Holl Ddled-swydd Dyn, Gwedi ei osod ar lawr mewn ffordd hynod ac eglur, defnyddiol i bawb, ondyn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig … A gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford A.M. … 1672; ac ar dudalen 412 ceir hyn: Duywo'der neilldwol ar amryw achosion yn gystal cyffredinol ac anghyffredinol … 1671. Cafwyd ail argraffiad yn 1711. Cyfieithwyd y llyfr hwn hefyd gan Edward Samuel yn 1718, ac ef oedd un o'r Cyfieithiadau mwyaf poblogaidd gan y S.P.C.K. yng Nghymru. Argraffwyd y llyfr gwreiddiol, The Whole Duty of Man, yn 1658, a thybir yn gyffredin mai'r Dr. Richard Allestree oedd ei awdur. Darllenid darnau ohono, weithiau, fel pregethau yn yr eglwysi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.