SYMONDS, RICHARD (1609 - ?), pregethwr Piwritanaidd

Enw: Richard Symonds
Dyddiad geni: 1609
Dyddiad marw: ?
Rhiant: Thomas Symonds
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Piwritanaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yn y Fenni, 1609, mab Thomas Symonds (a pherthynas, mae'n ddiau, i'r Nicodemus Symonds a oedd yn un o brif ddinasyddion y dref). Cafodd ei addysg yn Rhydychen, Coleg Exeter, ymaelodi yn 1627, B.A. 1629. Dywaid Baxter ei fod, tua 1635, yn cadw ysgol yn Amwythig, a'i fod ef yn ddisgybl iddo, ac i Symonds roddi noddfa i Walter Cradock pan orfu arno ffoi o Wrecsam. Yn 1638-9 cafodd amryw Biwritaniaid, gan gynnwys Richard Symonds, loches gan Syr Robert Harley a'i wraig Brilliana yn Brampton Bryan. Pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan clywir amdano yn ninas Bryste, yn pregethu yn Andover, ac am dymor yn dal bywoliaeth Sandwich yng Nghaint. Yn 1646 penderfynodd y Senedd wneud ymgais i efengyleiddio De Cymru drwy anfon tri o genhadon yno - Henry Walter, Walter Cradock, a Richard Symonds - y tri i bregethu yn Gymraeg, a'r tri i gael canpunt y flwyddyn yr un allan o fuddiannau'r deoniaid a'r cabidyliai a ddadwaddolwyd. Yn 1646 (30 Medi) a 1648 (26 Ebrill) gofynnwyd i Symonds bregethu o flaen Tŷ'r Cyffredin, ac yn nechrau 1650 penodwyd ef yn un o'r 25 profwr o dan Ddeddf y Taeniad. Yn Sir Forgannwg y gweithiodd fwyaf fel pregethwr a phrofwr yn y cyfnod hwn; ac ni chlywir fawr ddim amdano hyd nes i'r ' Triers ' yn 1657 roddi eu bendith arno i ' ddarlithio ' yn eglwys gadeiriol Llandaf. Nodyn go faterol yw hwnnw yn un o lawysgrifau'r Bodleian iddo dalu £550 am ran o'r tiroedd a berthynai unwaith i'r esgob. Er bod Symonds yn un o'r Piwritaniaid amlycaf yng Nghymru yn ystod y rhyfeloedd a'r Taeniad, ni ellir osgoi'r casgliad iddo suddo i ddinodedd cymharol ym mlynyddoedd olaf y Weriniaeth, a marw'n ddi-sôn-amdano cyn 1660; beth bynnag, ni chlywir gair amdano yng nghyfnod yr Adferiad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.