WALTER, HENRY (1611 - 1678), pregethwr Piwritanaidd, Annibynnwr

Enw: Henry Walter
Dyddiad geni: 1611
Dyddiad marw: 1678
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Piwritanaidd, Annibynnwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Mab Piercefield, plwyf St. Aryan's, sir Fynwy. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1633, 'yn 22 oed,' a graddiodd yn B.C.L. yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Uchelwr oedd ei dad, a phur eglwysig oedd tymheredd y teulu; pan wnaeth ei fam ei hewyllys olaf yn 1623, yr oedd degymau ardal Howick, ar ôl marw ei frawd, i syrthio i ran Henry.

Ond daeth Walter yn fuan o dan ddylanwad personoliaeth a syniadau William Wroth o Lanfaches; yn wir, yr oedd yn brif ffefryn y gwr hwnnw, ac ymddengys ei enw yn ewyllys Wroth (Medi 1638) fel prif ysgutor; serch hynny, drwy gymorth ei frawd John, fel noddwr, penodwyd ef yn gurad ar Mounton, plwyf bychan yn ymyl ei gartref, yn gynnar yn 1639. Curad neu beidio, Piwritan ydoedd, ac yn 1646 enwyd ef gan y Senedd Biwritanaidd yn un o dri i weithredu'n arbennig yn Ne Cymru, ac i bregethu yn Gymraeg.

Pan benderfynodd y Senedd ar ddechrau 1650 roddi Deddf y Taeniad mewn grym ac enwi ynddi 25 o Biwritaniaid yn brofwyr pregethwyr, Henry Walter a safai ar flaen y rhestr; y mae'n bur amlwg, oddi wrth y llyfr cyfrifon, ei fod yn wr prysur yng ngweinyddiad y ddeddf, gan bregethu ei hun yn siroedd Mynwy a Morgannwg, a gofalu am yrru cenhadon teilwng i'r rhannau mynyddig a blaenau'r cymoedd. Gan nad adnewyddwyd y ddeddf honno yn 1653, sefydlwyd Walter yn weinidog yng Nghasnewydd, i weithredu fel ficer Piwritanaidd S. Gwynllyw, a cheir yn llawysgrifau Lambeth fanylion go lawn pa fodd y cesglid ei ganpunt cyflog at ei gilydd.

Yn nyddiau'r Adferiad prin y disgwylid i wr fel Henry Walter gael llawer o heddwch; dywedir i haid o filwyr meddw ac afreolus ymosod arno yn Llantarnam yng Ngorffennaf 1660. Awgryma'r hanes mai yn Llantarnam yr oedd yn byw; dywed ysbiwyr 1669 ar ei ben mai ym Mharc y Pil yr oedd ei gartref, lle y rhoddai loches i addolwyr Anghydffurfiol (yn Llantarnam yr oedd y Parc, ac nid yng Nghaerlleon fel y dywedent hwy); pan gafodd drwydded o dan Ddeclarasiwn 1672, dywedid yn eglur ar honno taw yn Llantarnam yr oedd ei dy (os felly, tenant i Babydd ydoedd, un o Forganiaid Llantarnam, a chymydog agos iawn i Percy Enderbie, awdur Cambria Triumphans, a oedd yn briod ag un o ferched y plas). Yn 1675 edrych Henry Maurice arno fel sefydlydd a gwarchodwr Piwritaniaid niferus Mynydd-islwyn, a chytuna adroddiad Maurice a 'census' 1676 i ddangos mai Walter oedd etifedd pwerau'r hen Llanfaches, cynrychiolydd cenhadaeth y Taenwyr i'r Blaenau gynt, a phrif swcrwr cryn ddeucant o Anghydffurfwyr a addolai'n ddirgel ar y gwastadeddau rhwng Meirin ar un ochr i Gasnewydd a Redwick ar yr ochr arall. Gair Maurice yn 1675 yw'r olaf ymron amdano; ni wyddys i sicrwydd pa le y cyfrifwyd ef yn 'census' 1676, ai gyda'r 38 ym Mynydd-islwyn ai gyda'r tri 'Dissenter' yn adroddiad offeiriad Llantarnam.

Sut bynnag, dyddiad ei ewyllys yw 13 Ionawr 1674/5; yr oedd wedi marw yn haf 1678, canys prisiwyd ei eiddo a'i gelfi ar 8 Awst; profwyd ei ewyllys yn Llandaf ar 4 Chwefror 1678/9. Yr oedd tipyn o ddarpariaeth yn honno ar gyfer Anghydffurfwyr mwyaf anghenus Mynydd-islwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.