Brodor o Fedwellte, sir Fynwy, Yn 1771 cyhoeddodd Thomas Williams, Mynydd-bach, Sir Gaerfyrddin, gyfrol o farddoniaeth o'i eiddo wedi ei chyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg dan y teitl Cynghorion Tad i'w Fab a gynhwysai lythyr oddi wrth Stephen Hughes, dyddiedig 12 Mawrth 1682-3, a ddywed iddo dderbyn y llyfr oddi wrth yr awdur i'w gyhoeddi; felly yr oedd yr awdur yn gydoeswr â Stephen Hughes. Cyhoeddwyd hefyd yn 1764 waith gwreiddiol o farddoniaeth, sef Ymddiddan Hen Wr Dall a'r Angau (ac argraffiadau eraill yn 1781 a 1807). Ar wyneb-ddalen yr argraffiad diwethaf rhoddir enw'r awdur fel 'Harri Evan William o'r Bedwellty, sir Fynwy.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.