WILLIAM, THOMAS (1697 - 1778), Mynydd-bach, gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur

Enw: Thomas William
Dyddiad geni: 1697
Dyddiad marw: 1778
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd yn 1697, a threuliodd ei oes ymron yn Nhŷ'rbedw, ar y Mynydd-bach, ym mhlwyf Llandeilo-fawr, Sir Gaerfyrddin, ond dywed tystiolaeth ddiweddar nad gŵr o'r fro honno ydoedd. Gwehydd ydoedd wrth ei grefft, ond yr oedd yn ddyn o ddiwylliant uwch na'r cyffredin. Ymaelododd yng Nghapel Isaac, neu eglwys y Mynydd-bach fel y gelwid hi, yn 1715, a neilltuwyd ef yn ddiacon yno ar 1 Medi 1734. Dechreuodd bregethu 'n fuan wedyn, ac ar 5 Ebrill 1744 caniatawyd iddo drwydded i hynny gan sesiwn chwarter Caerfyrddin. Yn 1724 cyhoeddodd gronicl o ddigwyddiadau wrth yr enw Oes-lyfr, yn dair rhan. Caed ail argraffiad yn 1768, ac o leiaf dri arall wedi marw'r awdur, gan ychwanegu ato. Yr oedd hefyd yn awenydd gwych, ac argraffodd nifer o lyfrynnau eraill, yn cynnwys tri argraffiad (1727, 1766, 1767) o Gwaedd Ynghymru yn wyneb pob Cydwybod, ynghyd a Llythur ir Cymru Cariadus o waith Morgan Llwyd, Dammegion Iesu Grist ar Gan, 1761, o waith ei gydymaith Joseph John, ac yn 1771 gyfieithiad Henry Evans o'r Bedwellty o Cynghorion Tad i'w Fab. Wedi bod yn ŵr ei ddeheulaw i John Harries dros gyfnod ei weinidogaeth yn y Mynydd-bach (1724-1748), ordeiniwyd ef yn weinidog ar yr eglwys yn 1757, a llafuriodd yn ddiwyd yn y maes hwn hyd ei farwolaeth 12 Mehefin 1778. Claddwyd ef yn Llanfynydd. Ymddengys mai ef oedd ysgrifennydd ei eglwys, oherwydd ceir cofnodion am lawer blwyddyn yng ngwaith ei law yn hen lyfr eglwys y Mynydd-bach sydd yn awr yng nghadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.