Ganwyd 1603, yn fab i John Pew o Henllan, sir Ddinbych, yn ôl A. Wood, Athenae Oxionienses, a J. Foster, Alumni Oxonienses, ond John ap Hugh o Hendre Caerwys, Llaneurgain, Sir y Fflint, yn ôl Thomas, S. Asaph. Addysgwyd ef yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a graddiodd yn B.A. yn Chwefror 1625-6 ac yn M.A. Gorffennaf 1628. Apwyntiwyd ef yn ficer Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn, yn 1636, ond diswyddwyd ef gan Gyngor Lledaeniad yr Efengyl yng Nghymru yn eu cyfarfod yn Llanfyllin, 11 Mehefin 1650. Parhaodd, er hynny, i bregethu a gweinyddu yn ei hen blwyf, a bu teulu Vaughan o Lwydiarth yn noddwyr iddo. Cymysgwyd yn aml rhyngddo a'i gyfenw Richard Jones o Ddinbych.
Yn ystod ei ddifreiniad cyhoeddodd ddau waith, y ddau ohonynt yn grynodebau o gynnwys y Beibl mewn mesur rhydd. Ymddangosodd ei Testun Testament Newydd ein Harglwydd … yn Benhillion Cymraeg, yn Ionawr 1652-3, a Perl y Cymro neu Cofiadur y Beibl ar fesurau Psalmau Dafydd, yn 1655. Bu farw yn niwedd 1655 neu ddechrau 1656.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.