JONES, RICHARD (1603? - 1673), ysgolfeistr a chyfieithydd gweithiau crefyddol

Enw: Richard Jones
Dyddiad geni: 1603?
Dyddiad marw: 1673
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a chyfieithydd gweithiau crefyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Mab John Lewis o Lansannan, sir Ddinbych. Addysgwyd ef yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, a graddiodd yn B.A., Chwefror 1628-9, ac M.A., Mehefin 1633. Tan y Weriniaeth daeth yn bregethwr teithiol, ac yn ddiweddarach yn ysgolfeistr Ysgol Rydd Dinbych. Gwyddys iddo gael ei apwyntio i ysgol Dinbych cyn Chwefror 1656-7, o bosibl ychydig cyn hynny. Diswyddwyd ef yn 1660. Bu farw Awst 1673. Y cyntaf o'i gyfieithiadau i'w gyhoeddi oedd Galwad i'r Annychweledig, 1659, o Call to the Unconverted Richard Baxter. Mewn cyfrol amrywiol a gyhoeddwyd gan Stephen Hughes yn 1672 ymddangosodd ei Rhodfa Feunyddiol y Christion, cyfieithiad o Christian's Daily Walk Henry Oasland, ac Amdo i Babyddiaeth, o A Winding sheet for Popery Richard Baxter. Ymddangosodd Hyfforddiadau Christionogol, cyfieithiad o Christian Directions Thomas Gouge, yn 1675 ar ôl ei farw, ac hefyd Bellach neu Byth, cyfieithiad o Now or Never Baxter, yn 1677.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.