JONES, RICHARD ('o'r Wern '; 1772? - 1833), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor

Enw: Richard Jones
Dyddiad geni: 1772?
Dyddiad marw: 1833
Rhiant: Margaret Prichard
Rhiant: John Prichard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Richard Thomas

unig fab John a Margaret Prichard, Coed-cae-du, plwyf Llanystumdwy. Cafodd dymhorau byrion o ysgol o dan Robert Jones, Rhoslan, ym Mrynengan, ac wedyn gyda John Roberts, Llanllyfni. Bu hefyd am ddwy ysbaid yn ddisgybl i Evan Richardson yn Llangybi a Brynengan. Pan oedd yn 14 oed bu gorfod arno ymroddi i waith fferm. Ymhen rhyw ddwy flynedd profodd ddeffroad meddyliol, a'i hanes wedyn oedd darllen, ehangu ei wybodaeth, ac ymddiwyllio. Yr oedd cylch ei ddarllen yn eang - hanes, hynafiaethau, barddoniaeth (fel y dengys ei waith yn dilyn dosbarthiadau ' Dafydd Ddu Eryri ' yn Llanystumdwy) yn ogystal â materion gwleidyddol a chymdeithasol. Er iddo, meddir, gael y cynnig i fyned yn gyfreithiwr, dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1794. Bu ef a'i deulu yng Nghoed-cae-du hyd 1816 - y flwyddyn yr ordeiniwyd ef - ac, wedi iddynt fod rhyw dair blynedd yn Llwynimpia, Clynnog Fawr, symudwyd i'r Wern, Llanfrothen, ac wrth y lle hwnnw y cysylltwyd ei enw rhagllaw.

Daeth y Wern yn gartref i grefydd. Credai Richard Jones fwy mewn ysgol Sul a Beibl agored nag mewn dogma o eiddo dynion, a bu'n werth ganddo wneuthur dau holwyddoreg o ddwy ris ar y Beibl. Ceir amryw o'i gynhyrchion yn Seren Gomer, Goleuad Cymru, a'r Drysorfa dan yr enw ' Cymro Gwyllt.' Tua'r flwyddyn 1815, yng nghyfnod poethaf y ddadl boenus ar y ' Prynedigaeth a Helaethrwydd yr Iawn,' a'i hen gyfaill, John Elias, yn cerdded yn agos iawn i'r dibyn, daliodd Richard Jones ei dir yn eofn. Ceir hanes pur lawn am y ddadl yn Cofiant John Jones, Talysarn, gan Owen Thomas, cyf. ii, 560-77. Fel pregethwr, er nad oedd na llithrig na huawdl, câi wrandawiad parod oblegid yr oedd yng nghynnwys ei genadwri gyflawnder a newydd-deb. Yn 1829, cyhoeddwyd Drych y Dadleuwr. Dywed yn y rhagymadrodd, ' Fy amcan … ydyw nid dadleu … ond ceisio dangos yr ynfydrwydd cyffredinol y mae pleidgarwch (dadleuol) yn gwyro dynion iddo.' Yn 1835 cyhoeddwyd casgliad o'i emynau dan yr enw Hymnau a Chaneuon Ysbrydol a Duwiol, dan olygiaeth John Elias. Bu farw 26 Chwefror 1833. [Ar 11 Ionawr 1772 y bedyddiwyd ef.]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.