OWEN, ROBERT ('Eryron Gwyllt Walia'; 1803 - 1870), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd

Enw: Robert Owen
Ffugenw: Eryron Gwyllt Walia
Dyddiad geni: 1803
Dyddiad marw: 1870
Priod: Ellen Owen (née Owen)
Rhiant: Anne Owen (née Roberts)
Rhiant: Griffith Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: John Ellis Caerwyn Williams

Ganwyd 3 Ebrill 1803, yn Ffridd-bala-deulyn, yn agos i Dalsarn, Dyffryn Nantlle, Sir Gaernarfon, yn fab i Griffith Owen, brodor o'r Waunfawr, ac Anne Owen, gynt Roberts, merch y Ffridd a chwaer y pregethwyr Robert Roberts, Clynnog, a John Roberts, Llangwm. Aeth ei rhieni i fyw i Gaernarfon yn fuan wedi ei eni ef, ac yno y'i maged. Derbyniodd addysg well na'r cyffredin yn ysgol y Parch. Evan Richardson, ac wedyn fe'i prentisiwyd yn baentiwr, a dilynodd alwedigaeth paentiwr hyd oni ymneilltuodd tua phum mlynedd cyn ei farw. Yn llanc yng Nghaernarfon profodd ddylanwad 'Diwygiad Beddgelert' (1817-8), a gwnaeth John Elias argraff ddofn ar ei feddwl. Tua'r un amser dechreuodd ymddiddori mewn llenyddiaeth; cymdeithasodd â rhai o feirdd y gymdogaeth a chafodd gyfarwyddyd a chefnogaeth gan y prifardd 'Dewi Wyn.' Yn 21 oed (tua diwedd mis Ebrill 1824) aeth i Lundain. Ymaelododd yng nghapel Jewin Crescent a daeth i'r amlwg fel athro yn yr ysgol Sul ac wedyn fel arolygwr. Yn 1832 priododd ag Ellen Owen; chwaer iddi hi oedd gwraig Griffith Davies, yr 'actuary' enwog. Ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Treffynnon yn 1859. Ymddengys ei fod yn enwog am ei anerchiadau. Ei hynodrwydd oedd ei wybodaeth drylwyr o'r Beibl a'i allu i'w chymhwyso, a hefyd ei ddiddordeb yn niwinyddiaeth y Piwritaniaid. Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd, y rhan fwyaf o natur grefyddol. Gwrthododd am beth amser fynd i berthyn i Gymdeithas y Gwyneddigion oherwydd ei hawyrgylch anghrefyddol; ond yn 1833 ef oedd ei 'bardd' swyddogol. Am yr un rheswm nid âi i eisteddfodau er ei fod yn cystadlu ynddynt weithiau. Un o'i gyfeillion llenyddol oedd Thomas Edwards ('Caerfallwch'). Bu farw 22 Awst 1870.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.