DAVIES, GRIFFITH (1788 - 1855), mathemategwr

Enw: Griffith Davies
Dyddiad geni: 1788
Dyddiad marw: 1855
Priod: Mrs Davies (née Owen)
Priod: Mary Davies (née Holbert)
Rhiant: Mary Dafydd (née Williams)
Rhiant: Owen Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mathemategwr
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awduron: William Gilbert Williams, Llewelyn Gwyn Chambers, Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 5 Rhagfyr 1788 yn y Ty Croes, Llandwrog, mab Owen Dafydd a Mary Williams. Ysgol Sul ac ysgol ddydd Gymraeg ym Mrynrodyn, a thymor neu ddau mewn ysgol Saesneg yn Llanwnda, fu ei foddion addysg, gyda meithrinfa dda ar aelwyd ei rieni. Oherwydd yr amgylchiadau gwasgedig yn niwedd y 18fed ganrif bu'n rhaid arno droi allan yn gynnar i weithio, gyda ffermwyr i ddechrau, ac yn chwarel y Cilgwyn wedi hynny.

Ar ôl cynilo tipyn o arian aeth am dymor i ysgol Evan Richardson yng Nghaernarfon, lle y canfu fod ynddo duedd gref at fathemateg. Pan ddarfu ei gynhilion aeth yn ôl i'r chwarel, ond yn 1809 anturiodd i Lundain i ymberffeithio mewn Saesneg a mathemateg. Dilynodd rai dosbarthiadau, ac ar ôl cynnig ar amryw orchwylion cafodd le fel is-athro yn Sadlers Wells. Ar derfyn ei wasanaeth yno penderfynodd agor ysgol o'r eiddo'i hun i ddysgu mathemateg a phynciau perthynol. Gan fod amryw o'i ddisgyblion yn awyddu ymgydnabod a phynciau neilltuol mewn cyfrifiaeth ymroes yntau i astudio actuariaeth ac yswiriaeth. O ddyfalbarhau daeth i ddeall llawer ar gyfrinion y pethau hyn, a llwyddo i gynhyrchu tablau a roes seiliau gwyddonol i yswiriaeth. Yr oedd yn barod wedi cyhoeddi llyfr, A Key to Bonnycastle's Trigonometry, a chyhoeddodd bamffledau ar yswiriant, etc. Datblygodd fethod o rannu arian rhwng partneriaid mewn bargen pan oedd rhai wedi bod yn absennol yn ystod y mis. Mae tystiolaeth i'r perwyl bod Telford wedi gwneud camgymeriadau wrth gynllunio Pont y Borth dros afon Menai a bod Griffith Davies wedi ailwneud llawer o'r cyfrifiadau.

Enillodd enw da fel athro, ond rhoes yr ysgol heibio pan ddewiswyd ef yn gyfrifydd ymgynghorol i Gwmni Yswiriol y 'Guardian'; bernid bod llwyddiant rhyfeddol y cwmni hwnnw'n ddyledus i dablau a baratowyd ganddo ef. Un o'r ymgeiswyr ar gyfer y swydd pan benodwyd Griffith Davies oedd Benjamin Gompertz a oedd eisoes yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol. Dywedir bod gwrthwynebiad iddo oherwydd ei fod yn Iddew, a bod Nathan Rothschild wedi sefydlu swyddfa'r Alliance ar ei gyfer.

Yn 1827 ymroes i wrthwynebu cais rhai tirfeddianwyr i gau'r comin yn Llanwnda a Llandwrog a difreinio'r lliaws tyddynwyr a sefydlasai yno. Trwy ei ymdrechion ef a chyfeillion eraill llwyddwyd i ladd Bil Seneddol y tirfeddianwyr.

Yn 1830 dewiswyd ef yn archwilydd chronfa filwrol Bombay, a'r flwyddyn ddilynol cafodd waith cyffelyb gyda chronfa filwrol Madras. Gwnaeth ei waith i bob bodlonrwydd i'r awdurdodau.

Ar 16 Mehefin 1831 etholwyd ef yn F.R.S. Etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas Ystadegol Ffrainc yn 1833. Yr oedd yn un o ladmeryddion yr Institute of Actuaries ac ef oedd yr aelod cyntaf i'w ddyrchafu'n Gymrawd o'r sefydliad hwnnw. Parheir i ddefnyddio un o'i ddulliau cyfrifyddol heddiw. Derbyniodd hefyd fedal arian fawr y Royal Society of Arts yn 1820 am gerfio deial haul gywrain allan o ddarn o lechen. Gofynnwyd iddo fod yn llywydd cyntaf yr Institute of Actuaries ond gwrthododd. Disgrifiwyd ef fel 'The father of the present race of actuaries'.

Yr oedd bellach mewn safle i gynorthwyo llawer o'i gydwladwyr i gyrraedd safleoedd o bwys; e.e. Hugh Owen (Syr, wedi hynny) i fod yn ysgrifennydd Bwrdd newydd Llywodraeth Leol, a J. W. Thomas ('Arfonwyson') i gyrraedd staff yr Arsyllfa yn Greenwich.

Yn niwedd 1812 priododd Mary Holbert, a fu farw yn 1836, gan adael un ferch a ddaeth yn wraig i Samuel Dew, cyfreithiwr, Llangefni. Ailbriododd â Mrs. Glynne. Claddwyd y ddwy wraig yng nghladdfa Bunhill Fields.

Enillodd Griffith Davies barch cyffredinol ar gyfrif ei uniondeb, ei onestrwydd, ei dduwioldeb, a'i haelioni. Yn ystod ei holl yrfa cadwodd at grefydd syml bro'i febyd, a bu'n weithgar gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gan godi'n flaenor yn eglwys Jewin (MC), Llundain yn 1837. Bu'n aelod o bwyllgor Trefeca a dywedir ei fod wedi gosod sylfeini ariannol cadarn i'r enwad. Rhwng 1829 ac 1832 bu'n aelod blaenllaw o Gymreigyddion Llundain, ond ymddiswyddodd yn 1832 yn herwydd Radicaliaeth nifer o'r aelodau. Yr oedd yn credu yn gryf mewn addysg. Bu'n aelod o'r hen London Mathematical Society hyd ddiwedd y Gymdeithas, ac yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Lenyddol a Gwyddonol Islington lle bu'n byw.

Bu farw 21 Mawrth 1855, a chladdwyd ef ar 27 Mawrth yng nghladdfa Abney Park, Llundain.

Cedwir nifer o'i bapurau yn Llyfrgell yr Institute of Actuaries, yn eu plith An investigation of the bases for calculating life contingencies &c sef 24 adroddiad a ysgrifennodd yn 1831, a A paper on the construction of logarithms (1849). Cedwir 105 o flociau o'i allwedd i Bonnycastle's Trigonometry yn Ll.G.C. ynghyd â nifer o lythyrau oddi wrtho. Y mae rhai hefyd yn llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.