ROBERTS, THOMAS (1884 - 1960), addysgwr ac ysgolhaig

Enw: Thomas Roberts
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1960
Priod: Gwyneth Roberts (née Edwards)
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgwr ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 26 Rhagfyr 1884 yn y Pandy, Llanuwchllyn, Meirionnydd, yn fab i John Roberts. Addysgwyd ef yn ysgol Llanuwchllyn, ysgol sir y Bala a Choleg y Brifysgol, Bangor. Cafodd radd B.A. gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1907, a gradd M.A. yn 1910. Bu'n athro ysgol yn Abertyswg, Mynwy, 1907-08, ac mewn ysgol yn Llundain 1908-10. Yna penodwyd ef yn athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn y Coleg Normal, Bangor, ac yn is-brifathro yn 1920, a daliodd y swydd nes ymddeol yn 1949.

Dechreuodd Thomas Roberts ymddiddori'n gynnar yn hanes a gwaith Beirdd yr Uchelwyr, a pharhaodd ei ddiddordeb ar hyd ei oes. Testun ei draethawd M.A. yn 1910 oedd barddoniaeth Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Yn 1914 cyhoeddodd Gwaith Dafydd ab Edmwnd yng nghyfres The Bangor Welsh MSS Society. Casglwyd copïau o'r cerddi o lawer o lawysgrifau, ond nid amcanwyd at lunio testun safonol na rhestru darlleniadau amrywiol. Y mae'n amlwg fod y blynyddoedd hyn yn rhai prysur iawn i Thomas Roberts, oherwydd yn 1914 hefyd y bu'n cydweithio ag Ifor Williams i gynhyrchu Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr. Ef oedd yn gyfrifol am y rhagymadroddion ac am destun cywyddau'r cyfoeswyr - Gruffudd ab Adda, Madog Benfras, Gruffudd Gryg a Llywelyn Goch. Yn yr ail argraffiad yn 1935 ychwanegodd Thomas Roberts rai cywyddau a diwygiodd y rhagymadroddion. Yn 1925 cydweithiodd eto â Henry Lewis ac Ifor Williams ar y casgliad Cywyddau Iolo Goch ac eraill, gan fynd yn gyfrifol am gerddi Gruffudd Llwyd ac Ieuan ap Rhydderch, ac ar gyfer yr ail argraffiad yn 1937 helaethodd y rhagymadroddion a diwygiodd destunau'r cywyddau. Bu bwlch go hir rhwng hyn a'r gyfrol nesaf, sef Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn yn 1958. Dilynir yr un patrwm yma, sef rhagymadrodd llawn ar fywyd a theulu a chefndir y beirdd, trafod dilysrwydd y cerddi, ac un elfen newydd, sef ymdriniaeth â'r grefft fydryddol. Rhoir testun safonol wedi ei seilio ar bob llawysgrif oedd ar gael, ac yna nodiadau pur fanwl. Yn y gyfrol hon y gwelir y golygydd ar ei orau.

Yn ychwanegol at y cyfrolau hyn fe ysgrifennodd Thomas Roberts amryw o erthyglau ar ei ddewis faes. Yn ei holl waith yr oedd yn dra thrwyadl ac yn ofalus iawn i gynnal safonau uchaf ysgolheictod yn ddi-feth.

Priododd â Gwyneth Edwards o Landudno yn 1920, a bu iddynt un ferch. Bu farw 25 Awst 1960.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.