Sefydlwyd y teulu gan ALBAN STEPNEY, Sais o sir Hertford a mab i Thomas Stepney o S. Albans o'i wraig Dorothy, merch John Winde o Romsey, Huntingdonshire. Addysgwyd ef yng Nghaergrawnt a Clement's Inn a dywedir iddo ddyfod i Gymru fel cyfreithiwr ifanc yng ngwasanaeth yr esgob Richard Davies yn ystod yr ymweliad esgobol yn 1559. Ar 31 Rhagfyr 1561 fe'i penodwyd gan yr esgob yn dderbynnydd cyffredinol esgobaeth Ty Ddewi am ei oes. Bu hefyd yn gofrestrydd yr esgobaeth. Yn 1565 priododd ei wraig gyntaf, Margaret (c. 1546 - cyn 1573), merch a chydetifeddes Thomas Catharn o Brendergast a thrwyddi hi y daeth yn berchen ar faenor Prendergast. Cyn 1573 priododd ei ail wraig Mary, merch William Philipps o Bictwn. Bu'n flaenllaw yn y cylch gwleidyddol lleol a ffurfiwyd gan nifer o wyr bonheddig y sir dan arweiniad William Philipps, mewn gwrthwynebiad i Syr John Perrot a'i ganlynwyr. Bu'n ustus heddwch dros Sir Benfro a Hwlffordd, yn ddirprwy-raglaw Sir Benfro, yn siryf Sir Benfro yn 1573, 1590, a 1605, a siryf Sir Gaerfyrddin yn 1597, aelod seneddol dros Hwlffordd yn 1572, 1584, a 1586, dros Aberteifi yn 1588, a thros sir Benfro yn 1602; bu farw 19 Awst 1611. Urddwyd ei etifedd, JOHN STEPNEY (ganwyd 1581), yn farwnig yn 1621. Addysgwyd ef yn Rhydychen a Lincoln's Inn. Cyn 1611 priododd Jane, merch Syr Francis Mansel o Fodlysgwm, Sir Gaerfyrddin. Bu'n ustus heddwch, yn siryf Sir Benfro yn 1614, ac yn faer Hwlffordd yn 1620; bu farw 21 Gorffennaf 1626. Canlynwyd ef gan ei fab Syr ALBAN STEPNEY (c. 1607 - 1628). Brawd hwn, Syr JOHN STEPNEY (ganwyd c. 1618), oedd y 3ydd barwnig. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol bu'n gweithredu fel llywodraethwr tref Hwlffordd ac ef oedd un o'r ychydig o wyr bonheddig Sir Benfro a lynodd yn deyrngar wrth y brenin. Carcharwyd ef gan y fyddin Seneddol ar ôl iddynt ei ddal yn Henffordd yn 1645. Yn 1639 ef oedd siryf Sir Benfro. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdref Penfro yn 1640 a thros Hwlffordd yn 1640-3. Ef oedd maer Hwlffordd yn 1662 a dirprwy-raglaw Sir Benfro yn 1674. Ei wraig oedd Magdalen, merch Syr Henry Jones o Abermarlais; bu farw cyn 26 Medi 1676. Ei nai, Syr JOHN BAPTIST STEPNEY (bu farw 1681), oedd y 4ydd farwnig; priododd ef Justina Marianna, merch Syr Anthony Vandyke, yr arlunydd. Eu mab, Syr THOMAS STEPNEY, oedd y 5ed barwnig, a'i wraig ef oedd Margaret, chwaer a chyd-etifeddes Walter Vaughan o Lanelli. Priodwyd hwy tua 1691-3. Bu'n siryf Sir Benfro yn 1697 ac yn aelod seneddol dros sir Gaerfyrddin yn 1717; bu farw cyn 15 Chwefror 1745. Ymddengys i'r Stepneys dorri eu cysylltiad â Sir Benfro ac ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin (lle y cynrychiolir hwy heddiw gan deulu Stepney-Gulston, Derwydd, a theulu Howard-Stepney, Cilymaenllwyd, ac yn 1772 gwerthwyd eu heiddo yn Sir Benfro. Bu'r 8fed farwnig, Syr JOHN STEPNEY (1743 - 1811), yn aelod seneddol dros sir Fynwy, 1767-83, ac yn weinidog dros y Llywodraeth yn Dresden, 1775-82, a Berlin, 1782-3. Darfu'r urdd farwnig pan fu farw ei frawd, Syr THOMAS STEPNEY (1760 - 1825), gwastrawd dug Caerefrog. Ei wraig oedd Lady Catherine Stepney (bu farw 1845), y nofelydd (gweler D.N.B.).
Delia'r D.N.B. ag aelod arall o'r teulu hwn, sef GEORGE STEPNEY (1663 - 1707), llysgennad a bardd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Yn 1637 (nid ('1639') y bu Syr John Stepney (ganwyd c. 1618), yn siryf Sir Benfro. Yn 1782-4 y bu'r 8fed barwnig yn Berlin.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.