Ganwyd ym mhlwyf Clydey, yng ngogledd sir Benfro, mab Tobias Saunders, Cilrhedyn, Sir Benfro, a Lettice Phillips, Penboyr, Sir Gaerfyrddin. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 20 Mawrth 1690 (B.A. 1693, M.A. 1696, B.D. 1705, D.D. 1712). Pan oedd yn efrydydd bu'n helpu Edward Lhuyd gyda'r gwaith o gasglu manylion hynafiaethol ynglŷn â Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. (Llythyrau yn Inventory Sir Benfro, xxxvi a xxxvii, ac Inventory Sir Gaerfyrddin, 266.) Yr oedd yr esgob William Lloyd, un o'r saith esgob, yn noddwr iddo. Symudwyd Lloyd i fod yn esgob Caerwrangon yn 1700. O'r flwyddyn honno daliai ei fab (o'r un enw) fywoliaeth Blockley yn esgobaeth Caerwrangon, eithr rhoddodd hi i fyny yn 1705 a daeth Saunders, a fuasai'n gurad iddo er 1702, yn ficer (13 Awst). Bum mis yn ddiweddarach (18 Ionawr 1706), sefydlwyd ef hefyd yn rheithor (di-breswyl) Helmdon, sir Northampton (nid gogledd Hampshire fel y dywedir yn y D.N.B.) gan esgob Peterborough; daliodd y fywoliaeth hon hyd 1721; ond ni bu'n rheithor Moreton-in-the-Marsh, fel y dywed y D.N.B. Yn 1709 cafodd hefyd, gan yr esgob George Bull, Tyddewi, gadair prebend - y tro hwn yng Ngholeg Crist, Aberhonddu. Priododd Saunders yn 1714, yn Blockley, â Dorothy, merch Humphrey Lloyd, Aberbechan, gerllaw'r Drenewydd, Sir Drefaldwyn; bu iddynt saith o blant. Bu farw ar 1 Mehefin 1724, yn Aberbechan, o ergyd parlys, a chladdwyd ef yn S. Mary, Amwythig, ar y pumed dydd o'r mis hwnnw. Y mae ysgrif goffa faith ar ei feddrod yn yr eglwys honno; y mae hefyd yn eglwys Blockley dabled ar y mur yn dangos ei arfau ('sable, a chevron ermine between three bulls' heads, caboshed argent'), a osodwyd gan ei fab hynaf, Dr. Erasmus Saunders (canon yn Windsor, ficer St. Martin-in-the-Fields, a chanon yn Rochester, a fu farw yn 1775). Er ei fod yn 'pluralist' yr oedd Saunders yn offeiriad plwyf gweithgar. Yn 1713, gyda chymorth rhai o wŷr tiriog y gymdogaeth, llwyddodd i gael adeiladu ysgol yn Blockley; arni rhoes arysgrif yn Gymraeg - ' Aros a Llwydda.' Bu'n cynorthwyo gwaith y S.P.C.K., a bu o gymorth ariannol i'r gymdeithas trwy dalu am hanner cant o gopïau o'i hargraffiad o'r Beibl Cymraeg ac mewn ffyrdd eraill. Cyhoeddodd amryw bregethau; cyfieithwyd un o'r rhain, ar ' Household Government,' i Gymraeg gan Samuel Williams, tad Moses Williams. Eithr ar gyfrif ei lyfr a elwir A View of the State of Religion in the Diocese of S. Davids (London, 1721; adarg. gan Wasg Prifysgol Cymru, 1949) y mae Saunders yn haeddu sylw yn bennaf. Yn y gwaith hwn deliodd mewn modd trwyadl â'r hyn a alwai ef yn 'melancholy state' yr esgobaeth; daliai ef mai'r achos pennaf o hyn oedd y ffaith bod cymaint o'r degymau yn llaw gwŷr lleyg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.