Ganwyd yn 1749 (diwedd Mehefin, gellid tybied ar lythyr ganddo) ar fferm Bodlew, Llanddaniel, Môn yn bumed plentyn (y cyntaf o'r ail briodas) i William Prichard, ychydig cyn i hwnnw symud i Glwchdernog. Myn rhai na chafodd nemor addysg; deil eraill iddo fynd i ysgol yn Lerpwl, a haws yw credu hynny o sylwi ar ei ysgrifen gain a chylch ei wybodaeth gyffredinol. Bu'n briod ddwywaith: (1) yn 1775, â Catherine ferch Dafydd Roberts o Landyfrydog - bu hi farw yn 1779 gan adael un ferch; (2) yn 1785 â Gwen ferch William Owen o'r Crafnant yn Llanfair Harlech (o'r Fron-olau ym Mhenmorfa wedyn) - bu hithau farw yn 1797 gan adael pump o blant; ŵyr i J. W. Prichard, drwy Elizabeth un o'i ferched o'r ail briodas, oedd Richard Owen Williams (1819 - 1849), arno ef gweler Enw. F., a H. Lewis, Canmlwyddiant Tabernacl Bangor, 87-9; ŵyres oedd Frances a briododd ag Evan Williams ' y limner ', a gorŵyr oedd William Prichard Williams. Nid Annibynnwr, fel ei dad enwog, oedd J. W. Prichard, eithr Methodist selog. Bu'n ffermio Boteiniol ym mhlwyf Llantrisant, ond wedi marw ei wraig gyntaf symudodd i Blas-y-brain yn Llanbedrgoch, y tyddyn y cysylltir ei enw ag ef gan bawb; ychydig cyn diwedd ei oes, symudodd i'r Chwaen-wen Uchaf yn Llantrisant. Bu farw 5 Mawrth 1829, a chladdwyd yn Llangwyllog. Yr oedd yn ddyn eithriadol amryddawn; ffermwr, mesurwr tir ac almanaciwr, meddyg gwlad, twrnai gwlad, llenor a phrydydd a hynafiaethydd, tynnwr lluniau a mapiau, cerfiwr. Yr oedd ar delerau da ag uchelwyr y sir, yn enwedig a Paul Panton o'r Plas Gwyn. Nid ymddengys iddo gyhoeddi dim heblaw Hanes Pibau'r Bugeiliaid, ond y mae rhyw gymaint o'i brydyddiaeth ar chwâl mewn cyfnodolion a hefyd mewn llawysgrifau. Y mae swm gweddol helaeth o'i lawysgrifau yn llyfrgell Coleg y Gogledd (Bangor MSS. 47, 538, 1249, 2123-32, 3765-7, 5338); ambell ddyddlyfr, cyfrifon, cynghorion meddygol, nodiadau ar hanes ei deulu, copïau o lythyrau ac o brydyddiaeth. etc. Casglai hen lenyddiaeth - y mae ym Mangor amryw o lythyrau Lewis a William Morris a ddaeth i'w feddiant rywsut (sgrifennodd nodiadau ar Lewis Morris, llawysgrif 81 yng Nghaerdydd), ac yr oedd ganddo lythyrau gan Oronwy Owen. Yr oedd ef ei hunan yn ohebydd prysur â chylch eang o lenorion: 'Gwallter Mechain' (NLW MS 1808E rhif 6), William Owen Pughe, Richard Llwyd (awdur Beaumaris Bay), ' Twm o'r Nant,' ' Dewi Wyn,' ' Robert ap Gwilym Ddu (a oedd yn gâr iddo), Robert Roberts yr almanaciwr o Gaergybi. Ar y llaw arall, drwg oedd hi rhyngddo a ' Dafydd Ddu Eryri,' ac yr oedd yn ffieiddio ' Iolo Morganwg ' - ar ' Iolyn ' y bwriai'r cwbl o'r bai am 'ddrysu' Pughe. Mewn byd gwahanol, llythyrai â Thomas Charles o'r Bala, a'i lythyr maith at Robert Jones, Rhoslan, ynghylch yr erlid a fu ar ei dad William Prichard, yw sail yr ymdriniaeth â hynny yn Drych yr Amseroedd . Argraffwyd cryn nifer o'i lythyrau yn Y Traethodydd, 1883 a 1884 (gweler hefyd Bulletin of the Board of Celtic Studies, ix, x). Y mae cywyddau iddo gan 'Robert ap Gwilym Ddu' a 'Dewi Wyn' yn y cyfrolau o'u gweithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.