WILLIAMS, WILLIAM PRICHARD (1848 - 1916),

Enw: William Prichard Williams
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1916
Priod: Annie Ada Williams (née Jones)
Priod: Emily Williams (née Jones)
Plentyn: Gwladys Hudson-Williams (née Williams)
Rhiant: Ann Williams (née Owen)
Rhiant: David Williams
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Hudson-Williams

mab David Williams, ganwyd c.1824 Glasdo, Llan Ffestiniog, (un o ddisgynyddion William Prichard, Clwchdyrnog, sir Fôn), a'i wraig Ann Owen (c.1823-1867). Ganwyd 21 Gorffennaf 1848. Bu am ysbaid mewn ysgol yn y pentref a gedwid gan hen wraig, yna aeth i Fanceinion i wasanaeth J. a N. Phillips, a bu'n trafaelio drostynt hwy yng Ngogledd Cymru hyd derfyn ei oes. Ef oedd un o sylfaenwyr eglwys Bresbyteraidd Princes Road, Bangor, a dewiswyd ef yn un o'i blaenoriaid cyntaf. Yr oedd yn wir ysgolhaig, ac yn 1908, ar gais Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, golygodd argraffiad o Deffyniad Ffydd Eglwys Loegr, Maurice Kyffin. Bu'n briod ddwywaith: (1) ag Emily (bu farw 17 Medi 1881), a (2) â'i chwaer hi, Annie Ada (bu farw 26 Chwefror 1925) - merched i Henry Lloyd Jones, cyfreithiwr ym Mangor (J. E. Griffith, Pedigrees, 154). Bu farw 31 Gorffennaf 1916.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.