Ni wyddys pa bryd nac ymhle y ganed ef; barnai Thomas Rees, 'ar seiliau lled gedyrn,' mai yn ardal Caerffili; credai Richard Bennett (Blynyddoedd Cyntaf Methodistiaeth, 194-5) mai brodor o Gwm Nedd ydoedd, gan chwanegu iddo fod yn aelod ym Mlaengwrach dan Henry Davies - noder, fodd bynnag, nad yw ei enw yn y rhestr o aelodau'r eglwys honno yn 1734 a argraffodd J. Rufus Williams o lawysgrif Henry Davies, a hefyd mai yn Watford yr urddwyd ef. Sut bynnag, yr oedd yn un o ysgolfeistri Griffith Jones o Landdowror. Ym mis Chwefror 1739 (yn ôl llythyr gan Lewis Rees a argraffwyd gan Richard Bennett yn Meth. Trefaldwyn Uchaf, 14-6), yr oedd yn cadw ysgolion cylchynol yn Llanbrynmair, Llandinam, a Llanwyddelan (enwir yr ysgolion hyn yn Welch Piety, ond heb enwi'r athro); cymerwyd ef i'r ddalfa ym Mochdre, a rhwymwyd ef (Bennett, op. cit., 16-7) i ymddangos o flaen y sesiwn chwarter. Cyn diwedd 1739 yr oedd yn cadw ysgol yn Nantydeiliau, Llanuwchllyn. Erbyn 1740 cawn ef yn cadw ysgol gylchynol yng nghegin William Prichard yn y Glasfryn Fawr yn Sir Gaernarfon. Ar ymweliad â'r Bala yn Ionawr 1741 (daeth yno i hebrwng Howel Harris i Sir Gaernarfon), bu bron iddo gael ei lusgo i'r llyn gan dorf o erlidwyr. Edrydd Harris (dyddlyfr Chwefror 1741) nad oedd Morgan yn dda ei fyd yn y Glasfryn, ond cynghorodd ef i aros yno; yn yr ardal honno y cafodd ei wraig, un o ferched y Tyddyn Mawr, Tudweiliog - y tŷ y bu Evan Williams o Gwmllynfell yn ymguddio mewn cist ynddo rhag erlidwyr. Yn Chwefror 1742, cymerwyd Jenkin Morgan a Richard Tibbott i fyny fel 'vagabonds,' a'u hanfon yn ôl i'w cynefin gan eu cadw am noson yng ngharchar pob tre sir ar eu ffordd (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, iv, 13-4; i, 25). Ond dychwelodd Morgan i'r Gogledd, a chan fod William Prichard wedi gorfod symud i Fôn, aeth yntau yno. Erbyn hynny, yr oedd y cydweithrediad bore rhwng Annibynwyr a Methodistiaid yng Ngwynedd (fel mewn mannau eraill) wedi pallu rhyw gymaint. Ffurfiwyd eglwys Annibynnol yn 1744 yn nhŷ 'yeoman' o'r enw John Owen, Caeau Môn, ym mhlwyf Cerrig-Ceinwen. Urddwyd ef yn weinidog arni, yn Watford, Mehefin 1746 - yr oedd Thomas Morgan (1720 - 1799) yno, a Lewis Rees ac Edmund Jones yn pregethu. Cafodd grantiau gan y Bwrdd Presbyteraidd o 1747 hyd 1751, a chan y Bwrdd Cynulleidfaol o 1747 hyd 1762. Enwir ef (1747-50) yn nyddlyfrau John Wesley - bu'n cyfieithu i Wesley. Yn fuan wedi 1745, prynodd dyddyn o'r enw Ty'nyraethnen yng Ngherrig-Ceinwen, a chadwai ysgol yno; ar ddarn o'r tir cododd yn 1748 gapel Rhos-y-meirch, ac y mae cyfeiriadau at ei deithiau i'r Deheudir i gasglu at y capel. Ar 16 Chwefror 1762, ac yntau ar y pryd yn byw yn un o'r ddwy Drehwfa yn yr un plwyf, gwerthodd y tir y safai'r capel arno i'r eglwys - awgryma hyn, efallai, ryw ymdeimlad fod ei ddiwedd yn agos. Bu farw, meddai Thomas Morgan (Y Cofiadur, 1923, 15), yn 1762; ar 7 Mehefin 1762 yr ymddengys ei enw am y tro olaf yng nghofnodion y Bwrdd Cynulleidfaol. Credai Thomas Rees (ni ddywed ar ba sail) ei fod tua 45-7 mlwydd oed pan fu farw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.