Ganwyd 6 Ionawr 1719 yn Abercraf, Brycheiniog, yn frawd i William Evans, Cwmllynfell. Hanoedd o deulu crefyddol. Yn ôl pob tebyg, bu yn ysgol Joseph Simmons yn Abertawe neu Gastell Nedd. Yn y frwydr boeth rhwng Calfiniaeth ac Arminiaeth yng Nghwmllynfell ymunodd a phlaid Howel Harris a Daniel Rowland. Ffaglodd ei ysbryd efengylaidd tanllyd yn ei gyfathrach â'r diwygwyr. Yr oedd yn wir ddiwygiwr o ran anianawd a gweledigaeth. Dychwelodd i'w hen gynefin yng Nghwmllynfell yn 1742. Cafodd rhyw 'Evan Williams, academi Caerfyrddin,' rodd gan y Bwrdd Cynulleidfaol yn 1743. Hwyrach ei dderbyn i'r academi y flwyddyn honno ac iddo deithio llawer ar draws y wlad i bregethu rhwng 1743 a 1745. Epig fawr ei fywyd oedd y daith ryfedd honno i Sir Gaernarfon pryd yr erlidiwyd ef yn greulon. Enwir ef fel 'minister' Cwmllynfell ar drwydded 1744. Aeth i academi Caerfyrddin yn 1745. Derbyniodd rodd o £2 oddi wrth y Bwrdd Cynulleidfaol ar 5 Hydref 1747. Nodir i Evan Williams (gweinidog Cwmllynfell yn ddiweddarach) gael rhodd o £2 yn ei le. Bu Evan Williams farw 20 Awst 1748 ar ôl clafychu yn hir ar ôl y daith i Gaernarfon. Tystiai Edmund Jones, Pontypŵl, ei fod yn bregethwr dihafal, yn fyfyriwr mawr yn yr Ysgrythurau, ac y buasai yn oleuad mawr ym mhulpud Cymru pe cawsai fyw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.