EVANS, WILLIAM (1716 - 1770), gweinidog Annibynnol

Enw: William Evans
Dyddiad geni: 1716
Dyddiad marw: 1770
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Ystradgynlais, 1716. Daeth yn aelod yng Nghwmllynfell yn 18 oed. Bu'n briod ddwy waith; drwy ei ail wraig daeth i amgylchiadau cysurus fel amaethwr ym mhlwyf Llangiwc. Trwyddedwyd ef i bregethu ar gais eglwys Cwmllynfell, 5 Ebrill 1751. Bu'n weinidog Cwm Mawr a Rhydymaerdy, plwyf Llanrhidian, Gŵyr, 1754-70. Daeth Rhydymaerdy yn ganolfan eglwysig pwysig dan ei weinidogaeth. Cynhelid cyfarfodydd gweinidogion o Dde a Gogledd Cymru yn achlysurol yno; y cyfarfodydd hyn oedd blaenffrwyth cyfarfod chwarter yr Annibynwyr Cymraeg. Yng nghyfarfod 10 a 11 Mehefin 1761 yn Rhydymaerdy, ‘lle y mae'r duwiol William Evans yn weinidog,’ y derbyniwyd John Thomas (Rhaeadr Gwy) i gyfundeb yr Annibynwyr o gyfundeb y Methodistiaid. Yr oedd yn un o'r 18 gweinidogion amlwg a arwyddodd A Vindication of the Conduct of the Associated Ministers in Wales, a gyhoeddwyd yn 1771 — datganiad y gweinidogion Calfinaidd cymedrol. Bu'n weinidog ei fam-eglwys, Cwmllynfell, 1767-70. Daeth yno wedi'r frwydr fawr rhwng Arminiaeth a Chalfiniaeth, a'r rhwyg rhwng Cwmllynfell a Gellionnen. Ychwanegodd dros 150 o aelodau at yr eglwys yng Nghwmllynfell yn ystod y tair blynedd y bu yno. Calfin cymedrol ydoedd yn ei ddiwinyddiaeth, efengylydd eneiniedig yn ei bregethu. Bu f, 24 Ebrill 1770, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llangiwc lle y gwelir ei garreg fedd hyd heddiw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/