THOMAS, JOHN (1730 - 1804?), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac emynydd;

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1730
Dyddiad marw: 1804?
Priod: Elizabeth Thomas (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac emynydd;
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn 1730 (bedyddiwyd 25 Ebrill) yn y Col ym mhlwyf Myddfai (Caerfyrddin). Hanoedd o deulu didoriad, a thaflwyd ef ar drugaredd ei geraint yn blentyn. Cafodd ysbeidiau byr o ysgol a darllenai Gymraeg a Saesneg. Bu'n was bach mewn ffermydd yn yr ardal, a bwriai ei oriau hamdden yn darllen y Beibl, Cannwyll y Cymru, a Taith y Pererin. Yr oedd o dymheredd grefyddol er yn ifanc, a phan glywodd Howel Harris yn pregethu yn nhy Sieffre Dafydd, Llanddeusant (1745), ysgytiwyd ei holl anianawd ysbrydol. Yn 15 oed aeth yn was yn nhy Griffith Jones yn Llanddowror, a bu yno am ddwy flynedd; ond ni chefnogai Griffith Jones ei awydd at bregethu. Eithr rhoes Howel Harris ysgol yn rhad iddo yn Nhrefeca; yno ymroes i fynychu seiadau a chyfarfodydd crefyddol, ac i gynghori. Bu am nifer o flynyddoedd yn athro yn ysgolion cylchynol Griffith Jones yn siroedd y Deheudir, a chynghorai, dan gryn erledigaeth.

Derbyniwyd ef yn gynghorwr rheolaidd mewn sasiwn Rowlandaidd yn 1752; ond hoffai drefn eglwysig yr Annibynwyr, a chyda chydsyniad Rowland ymunodd â hwy. Yn 1761 llwyddodd Joseph Simmons ac eraill i gael mynediad iddo i academi'r Fenni. Arferodd David Jardine gryn ddoethineb tuag ato, ond pregethu a wnaeth tra fu yno, yn hytrach na dysgu.

Urddwyd ef yn weinidog Rhaeadr Gwy, Caebach, a'r Garn, 23 Ebrill 1767, gan Edmund Jones, Isaac Price, a Richard Tibbott — tri Annibynnwr ‘Methodistaidd.’ Ar waethaf haelioni Thomas Jones, Pencerrig (tad yr arlunydd Thomas Jones), tymhestlog fu ei hynt weinidogaethol; ac ar hyd yr amser teithiai i bobman (i Wynedd, a hyd yn oed i Lundain) i bregethu; yn wir, ni phallodd ei anian Fethodistaidd erioed, a phregethai yn Llangeitho, yn Nhrefeca, ac yng nghapelau'r arglwyddes Huntingdon mor bell â Brighton. Gadawodd sir Faesyfed yn 1794 a threiglodd i Langathen, i Abergwili, ac i Gaerfyrddin, lle y bu farw — ni wyddys pa bryd, ond tystia yn Rhad Ras ei fod yn fyw yng ngaeaf 1803-4; myn rhai iddo fyw hyd 1810 neu 1811. Priododd Miss Elizabeth Jones o Ddyffryn Cothi, plwyf Llanfynydd.

Ei Rhad Ras (na chyhoeddwyd hyd 1810) yw'r hunangofiant Cymraeg cyntaf, ond odid; ac efallai mai hwn, ac emynau ‘Pantycelyn,’ yw lleferydd uchaf y diwygiad. Ond yr oedd John Thomas yntau'n emynydd nodedig. Cyhoeddodd Caniadau Sion [ sic ] yn chwech o rifynnau rhwng 1758 a 1786, a chasglwyd hwy'n un gyfrol yn 1788, a chynnwys hwn amryw o'n hemynau mwyaf adnabyddus. Canodd farwnadau i Howel Harris, Dafydd Jones o Gaeo, a Peter Williams. Yr oedd hefyd yn gyfieithydd diwyd — yn enwedig, cyfieithodd amryw draethodau gan Bunyan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/