PRICE, ISAAC (1735? - 1805), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Isaac Price
Dyddiad geni: 1735?
Dyddiad marw: 1805
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn y Gellicrugion, ger Llanwrtyd, sir Frycheiniog, tua 1735. Magwyd ef ar aelwyd grefyddol lle y lletyai pregethwyr ar daith, a chafodd a oedd o fanteision addysg prin y gymdogaeth. Derbyniwyd ef i gymundeb yn ieuanc. Gogwyddai ei feddwl yn gynnar at y pulpud, ac aeth i ysgol Joseph Simmons, Castell Nedd, i'w baratoi ei hun. Dechreuodd bregethu yn Nhroedrhiwdalar fel cynorthwywr i'r hen weinidog Thomas Morgan yn ei lesgedd. Urddwyd ef yn Nhroedrhiwdalar yn 1758. Meddai ar gorff cadarn a'i galluogodd i fynd ar deithiau pregethu cyson drwy gantrefi Buellt a Brycheiniog, ac i Sir Gaerfyrddin mor bell â Chrug-y-bar; aeth i Grug-y-bar ar wahoddiad yr emynydd David Jones o Gaeo, a phregethodd yno unwaith y mis drwy gydol ei weinidogaeth. Pregethai yn angerddol ac argyhoeddiadol, a gwelodd ysbeidiau o ddiwygiadau nerthol yn Nhroedrhiwdalar; yr oedd yn un o Annibynwyr cyntaf ei gylch i fabwysiadu dulliau'r Diwygiad Methodistaidd; ac yr oedd gan Williams, Pantycelyn barch mawr iddo. Un o saint ei weinidogaeth yng Nghrug-y-bar oedd Nansi Jones. Bu farw 26 Chwefror 1805.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.