EDWARDS, ELLIS (1844 - 1915), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a phrifathro Coleg y Bala, 1906-15

Enw: Ellis Edwards
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1915
Rhiant: Eleanor Edwards (née Williams)
Rhiant: Roger Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a phrifathro Coleg y Bala, 1906-15
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Gwilym Arthur Edwards

Ganwyd yn yr Wyddgrug, 9 Mehefin 1844, mab i Roger Edwards. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Edinburgh (M.A. ac yn ddiweddarach D.D. er anrhydedd o'r unrhyw brifysgol). Ordeiniwyd ef yn 1872, a bu'n weinidog Albert Road, Croesoswallt, 1872-4. Cyn diwedd 1873 penodwyd ef yn athro i'r Bala, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes; is-brifathro 1889, prifathro 1908. Darlithiodd yno ar wahanol faterion: moeseg, amddiffyn crefydd ('apologetics'), cymharu crefyddau, ac yn ddiweddarach ar ddiwinyddiaeth. Cyn troi'r coleg yn un diwinyddol yn unig (1891), talodd lawer o sylw i Ladin, Groeg, a llenyddiaeth Saesneg. Traddododd Ddarlith Davies ('Y Bod o Dduw') yn 1903. Prin y gwyddai beth oedd meddwl ar ddiwinyddiaeth fel Lewis Edwards neu ar esboniadaeth fel Thomas Charles Edwards, ond ar yr holl gwestiynau ar y goror rhwng diwinyddiaeth ac athroniaeth a llenyddiaeth yr oedd ganddo wybodaeth eang iawn. Cyfansoddodd rai tonau, darlithiodd lawer y tu allan i'r coleg ('Lady Macbeth ' a ' Some Sounds in Nature ' oedd teitlau dwy ddarlith boblogaidd iawn), areithiodd ar wleidyddiaeth, ac yr oedd yn siaradwr hynod atyniadol ac yn bregethwr gwych a safai mewn dosbarth ar ei ben ei hun. Rhyw fywiogrwydd disglair a rhyw ddiwylliant uchel ac amlochrog a'i nodweddai, ac ychydig o athrawon a hoffid yn fwy nag ef ar gyfrif ei bersonoliaeth hyfryd a'i foneddigeiddrwydd. Nid ysgrifennodd lawer na gadael llyfr ar ei ôl, a bu ei fyddardod yn anfantais iddo gymdeithasu ag eraill, ond y mae canon yr ystorïau amdano yn un maith. Cafodd ddamwain yng Nghaer cyn diwedd ei oes, a bu farw 2 Chwefror 1915.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.