JONES, JOHN (1790 - 1855), argraffydd a chyhoeddwr

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Cyhoeddwr cyntaf Yr Amserau, y papur newydd Cymraeg cyntaf i'w osod ar sylfaen gadarn. Ganwyd yn Llansanffraid Glan Conwy, sir Ddinbych, 29 Medi 1790. Pan yn 12 neu 13 oed aeth i Lerpwl fel prentis gyda'r argraffwyr, Nevetts, Castle Street. Wedi iddo orffen ei brentisiaeth, dechreuodd argraffu ei hun yn yr un stryd. Yno cyhoeddodd nifer o lyfrau Cymraeg, yn eu plith gyfrol fechan (1829) er cof am Thomas Hughes (1758 - 1828), a Thomas Edwards, gweinidogion gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl. Cyhoeddodd hefyd fisolyn, Y Pregethwr 1835-45?). Yn 1821 cydnabuwyd ef ei hun fel pregethwr lleyg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yr oedd, fel blaenor, yn un o'r rhai a arwyddodd weithred gyfansoddiadol yr enwad (1826). Yn Nhachwedd 1830, fodd bynnag, diarddelwyd ef am dderbyn llwgr dâl ynglŷn ag etholiad seneddol y flwyddyn honno. Yr oedd John Elias yn cydfynd â'r disgyblu hyn, er fod Jones yn gyfaill iddo ac wedi gwasanaethu fel gwas priodas yn ei ail briodas ym mis Chwefror Ail dderbyniwyd Jones fel aelod yn 1833, ond gwrthodwyd ei ail ethol yn flaenor yn 1836. Ymddengys ei fod yn ŵr anodd i gydweithio ag ef (dywedir hyn ar sail tystiolaeth y cydnabyddir ei bod yn rhagfarnllyd). Yr oedd ei syniadau diwinyddol a gwleidyddol ychydig yn rhy radicalaidd i fod yn dderbyniol gan ei gyd-aelodau tra cheidwadol. Yn 1838 diarddelwyd ef drachefn. Yna ymunodd ag Annibynwyr Cymraeg Lerpwl, a bu'n weithgar iawn gyda hwy. Yn 1844 daeth yn ôl i gorlan y Methodistiaid Calfinaidd, a dyfod yn ŵr blaenllaw unwaith eto, gan ail ddechrau pregethu. Tua 1850 aeth i fyw i Brookhouse, Dinbych, gan adael y fusnes (yn awr yn 18 Tithebarn Street) yn nwylo'i deulu. Yn 1850 ymddangosodd Cofiant y Parchedig John Elias o Fôn, a ysgrifennwyd gan Jones a'i gyfaill, y Parch. John Roberts, Lerpwl (1808 - 1880), yn fwy adnabyddus wrth ei ffug-enw, Minimus. Bu Jones farw'n sydyn, 8 Ionawr 1855, yn y trên ar y ffordd adref (i Melville Place) ar ôl taith bregethu.

Ymddangosodd Yr Amserau gyntaf pan oedd Jones yn aelod gyda'r Annibynwyr, ac yn un o braidd William Rees ('Gwilym Hiraethog'). Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf, 23 Awst 1843. Yr oedd Jones, nid yn unig yn argraffu, ond hefyd yn gyfrifol am y treuliau, yn gwasanaethu fel is-olygydd, ac yn chwilio am newyddion lleol a hysbysiadau, etc. Rees oedd yn gyfrifol am y prif erthyglau, ac am newyddion seneddol a thramor. Ar ôl brwydr galed, dechreuodd y papur fod yn llwyddiant. Ond, yn 1848, gwerthodd John Jones ei hawliau i John Lloyd o'r Wyddgrug - gweler yr erthygl ar Evan a John Lloyd. Am hanes diweddarach Yr Amserau, gweler hefyd tan Gwilym Hiraethog a Thomas Gee.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.