Ail fab Richard Roberts, masnachydd nwyddau llong (ship's chandler) yn Lerpwl. Etholwyd ef yn flaenor (1827?) yn eglwys M.C. Bedford Street, dechreuodd bregethu yn 1830, ac fe'i hordeiniwyd yn 1857 yn Sasiwn Dolgellau. Priododd yn 1849, ag Elizabeth Milnes o Groesoswallt (bu farw 1865). Daeth ei chwaer ieuengaf, Ann, yn ail wraig i'r Parch. David Charles (1803 - 1880). Tra'n parhau i weithio i gwmni llongau, yn 1840 daeth yn ysgrifennydd di-dâl i gymdeithas genhadol y Methodistiaid Calfinaidd a oedd newydd ei ffurfio (gweler Thomas Jones, 1810 - 1849; o 1861 hyd farwolaeth ei wraig trigai ger yr Wyddgrug.
Yn 1866 torrodd ei gysylltiad â Chenhadaeth Dramor y M.C. a symudodd i Gaeredin yn ysgrifennydd y 'Scottish Sabbath Observance Society'. Bu farw yno 6 Ionawr 1880, ac fe'i claddwyd yng nghladdfa S. James, Lerpwl. Gadawodd un ferch ar ei ôl.
Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion y M.C., e.e., Y Traethodydd ac Y Drysorfa - bu'n golygu 'r olaf yn 1846, ac ar ôl hynny yn gydolygydd â Roger Edwards hyd 1852. Gyda Richard Williams (1802 - 1842) golygodd Y Pregethwr, 1835-8. Cydweithiodd â John Jones (1790 - 1855) ar gofiant John Elias, ac ysgrifennodd emynau hefyd ac y mae un ohonynt sy'n dechrau â'r geiriau 'Bywha dy waith …', a ymddangosodd gyntaf yn Y Drysorfa 1840, yn cael ei ganu heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.