WILLIAMS, RICHARD (1802 - 1842), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur

Enw: Richard Williams
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1842
Priod: Mary Williams (née Hughes)
Rhiant: Mary Williams (née Roberts)
Rhiant: Richard Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Emyr Williams

Ganwyd yn y Winllan, Llanbrynmair, 31 Ionawr 1802, mab Richard a Mary Williams, a brawd William Williams ('Gwilym Cyfeiliog'). Addysgwyd ef yn ysgol ei ewythr, y Parch. John Roberts, ac yn ysgol William Owen, Trallwng, yn ddiweddarach bu mewn ysgolion yn Birmingham, Wrecsam, a Lerpwl; ac yno, ar ôl ysbaid, yr agorodd ysgol ei hunan. Yn 1830 priododd â Mary, merch y Parch. Thomas Hughes, Lerpwl. Yn 1834 ymryddhaodd o waith ysgol er mwyn pregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Fe'i hordeiniwyd yn 1835 yn y Bala a threuliodd weddill ei oes yn weinidog ar eglwys Rose Place, Mulberry Street, Lerpwl. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Genedlaethol Dramor y Methodistiaid Calfinaidd, ac fel cadeirydd cyntaf y pwyllgor fe'i dewiswyd i roddi y mater gerbron y ddwy gymdeithasfa yn Llanfaircaereinion ac yng Nghastell Nedd yn 1840. Cydolygodd, gyda'r Parch. Joseph Williams, gasgliad o emynau yn 1841. Ysgrifennodd Y Pregethwr a'r Gwrandawr, 1840, ymddiddanion a gyhoeddwyd yn y Drysorfa, 1838/9, ac erthyglau eraill, a'r emyn ' Er fod i'm rhan tra ar y llawr.' Bu farw 30 Awst 1842 yn Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.